Mamau'n gorfod teithio hyd at 10 awr am ofal amenedigol
- Cyhoeddwyd
Mae mamau newydd sydd angen gofal seiciatrig yn teithio hyd at 10 awr i'r ysbyty gan nad oes cyfleusterau addas yng Nghymru, yn ôl adroddiad.
Mae cynlluniau ar gyfer uned arbenigol i Gymru yn cael eu hystyried ers Gorffennaf 2017 ond does dim penderfyniad hyd yma.
Yn ôl Dr Sarah Witcombe-Hayes, arweinydd y gwaith ymchwil, mae'n "hanfodol" i gael cyfleuster yng Nghymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer y gwasanaeth.
Fe gaeodd yr unig uned arbenigol yng Nghymru ar gyfer mamau a babanod yng Nghaerdydd yn 2013, ac mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw am uned newydd ers hynny.
'Effaith niweidiol'
Dywedodd Dr Witcombe-Hayes, sy'n gweithio i NSPCC Cymru, fod gorfod mynd i lefydd fel Nottingham, Derby a Llundain i gael darpariaeth gofal wedi cael effaith "niweidiol" ar y mamau a'u teuluoedd.
"Dywedodd menywod a oedd yn rhan o'r gwaith ymchwil eu bod nhw'n gorfod teithio'n bell iawn i gael mynediad i'r gwasanaeth," meddai.
"Weithiau roedd rhaid teithio saith i ddeg awr pan fo'r ddynes yn ddifrifol sâl, neu roedden nhw'n cael eu trin mewn unedau seiciatrig yng Nghymru heb eu plentyn a heb le i'r teulu allu ymweld.
"Mae hi'n hanfodol fod gan Gymru ddarpariaeth ar gyfer y menywod sy'n gorfod dioddef yr amgylchiadau fwyaf difrifol".
Mae'r adroddiad (yn Saesneg yn unig), dolen allanol wedi ei seilio ar brofiad 69 o fenywod sydd wedi dioddef problemau iechyd meddwl, a 45 arbenigwr yn y maes.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod darpariaeth gofal wedi gwneud cynnydd, ond bod lle mae'r ddynes yn byw yn dal i benderfynu lefel y gofal arbenigol sydd ar gael.
Mae gan chwech o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru wasanaeth iechyd meddwl amenedigol. Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yw'r unig un heb wasanaeth o'r fath.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i wella gwasnaethau iechyd meddwl amenedigol.
"Ers 2015 mae £1.5m wedi cael ei fuddsoddi yn flynyddol mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol ar hyd Cymru, sy'n ceisio nodi, trin a rheoli problemau iechyd meddwl cyn ac ar ôl rhoi genedigaeth."
Ychwanegodd: "Rydym yn ystyried opsiynau i sicrhau gofal mwy dwys a chefnogaeth i gleifion mewn ysbytai heb orfodi mamau i fod ar wahân i'w babanod a'u teuluoedd heb fod angen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2017