Pryder bod plant ag anableddau dysgu yn 'ynysig'
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ifanc gydag anableddau dysgu yn cael eu "gwthio i'r cyrion a'u cadw o'r golwg", yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.
Dywedodd yr Athro Sally Holland nad ydyn nhw'n derbyn y gefnogaeth y maent â hawl gyfreithiol iddo.
Yn ôl Derrick a Sian Ellis o ardal Wrecsam, sydd â mab ag anableddau dysgu, does "neb i gyfeirio pobl ag anawsterau dysgu i'r cyrchfan cywir".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyhoeddi eisoes eu bod yn gwella gwasanaethau.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n cynrychioli cynghorau, wedi cael cais am sylw.
'Ychydig iawn o wybodaeth'
Fe wnaeth yr Athro Holland edrych ar brofiadau pobl ifanc gydag anableddau dysgu wrth iddyn nhw droi'n oedolion.
Dywedodd 83% o'r 187 o rieni gafodd eu holi eu bod yn poeni bod eu plant yn ynysig yn gymdeithasol, ac fe wnaeth nifer sôn am eu pryder am fwlio.
Dywedodd yr Athro Holland: "Gall hwn fod yn gyfnod mor frawychus i bobl ifanc a'u teuluoedd.
"Mae angen iddo fod yn llawer mwy llyfn, cael ei gynllunio'n llawer gwell, ac mae angen i wasanaethau gydweithio er mwyn sicrhau bod y gofal a gynigir i bob teulu unigol yn diwallu eu hanghenion.
"Mae peth deddfwriaeth allweddol yn ei lle eisoes. Y cam nesaf yw gwella'r dull o'i chyflwyno."
Er y ddeddfwriaeth, fe wnaeth hi ddarganfod bod pobl ifanc a'u teuluoedd yn ei chael yn anodd cael mynediad at gefnogaeth, a'u bod yn aml ag ychydig iawn o wybodaeth am ble i fynd am help.
Mae Tomos Ellis, myfyriwr 20 sydd ag anableddau dysgu, yn astudio yng Ngholeg Cambria ar hyn o bryd, ond bydd yn gorffen yno y flwyddyn nesaf.
Dywedodd ei rieni, Derrick a Sian, o Johnstown ger Wrecsam, eu bod yn bryderus am ei ddyfodol wedi iddo adael.
'Dim cyhoeddusrwydd'
"Mae pryderon ynghylch pontio i wasanaethau oedolion oherwydd bod y broses ddim yn cael cyhoeddusrwydd, a does neb i gyfeirio pobl ag anawsterau dysgu i'r cyrchfan cywir," meddai Mrs Ellis.
"Flwyddyn nesa' fydd o'n chwilio am ryw fath o leoliad, gwaith â chymorth, neu wirfoddoli.
"Mae gan y coleg swyddog pontio, ond mae hynny'n beth diweddar, felly dydyn ni ddim yn siŵr sut bydd yn gweithio.
"Rydyn ni'n eitha' sicr mai ni fydd yn gorfod mynd ar ôl sefydliadau, gan obeithio y byddan nhw'n gallu helpu Tomos.
"Yr allwedd yw dilyniant yn y gefnogaeth a throsglwyddo sydd wedi'i drefnu'n iawn, a hyd y gwyddon ni, dydy hynny ddim yn digwydd."
O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, dylai pobl ifanc sydd angen gofal a chefnogaeth fod yn rhan o lunio'r gofal maen nhw'n ei dderbyn, a chael mynediad hawdd i'r help a'r wybodaeth iawn.
Dylai gwasanaethau fel iechyd ac addysg hefyd gydweithio i roi gofal i bobl sy'n diwallu eu hanghenion unigol, a bod yn hyblyg.
Mae'r adroddiad, 'Paid dal yn ôl', yn gwneud naw argymhelliad am welliannau, ac mae'r Athro Holland wedi galw am ragor o nawdd ar gyfer cyfleoedd gwaith a phrentisiaethau.
Ychwanegodd bod agweddau cyffredinol tuag at bobl ag anableddau dysgu angen newid hefyd.
'Cryfhau gwasanaethau'
"Rwy'n meddwl eu bod yn grŵp sy'n cael eu gwthio i'r cyrion a'u cadw o'r golwg yn rhy aml," meddai.
"Dydyn ni ddim wastad yn gweld, siarad gyda, a dod yn ffrindiau gyda phobl sydd ag anableddau dysgu.
"Wrth iddyn nhw droi'n oedolion mae ganddyn nhw lai o gyfleoedd i gymdeithasu gyda phobl eraill yn eu cymuned, a gall hynny arwain at stereoteipio a chamddealltwriaeth o bobl ag anableddau dysgu."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe wnaethon ni gyhoeddi ein Rhaglen Gwella Bywydau yn ddiweddar - rhaglen gafodd ei datblygu yn dilyn trafodaethau gyda dros 2,000 o bobl sydd ag anableddau dysgu, a'u teuluoedd.
"Bydd yn cryfhau ac yn adeiladu ar y gwasanaethau presennol a darparu cefnogaeth effeithiol, gan ganolbwyntio ar anghenion yr unigolyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2017