Ateb y Galw: Yr actor William Thomas
- Cyhoeddwyd
Yr actor William Thomas sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Sue Roderick yr wythnos diwetha'.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Ofn Siôn Corn ym mharti Nadolig Ysgol Sul Carmel yn Clydach. O'n i bythdu 4 oed.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Petula Clark.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Anghofio llinelle ar lwyfan yn y ddrama Gas Station Angel gan Ed Thomas yn Copenhagen. Erchyll!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Marwolaeth fy mab, Mathew.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Cnecu!
O archif Ateb y Galw:
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Aberystwyth. Atgofion melys o wyliau haf fy mhlentyndod.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson anhygoel yng nghlwb BB King yn Nashville.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Twll tin uffernol.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Birdsong gan Sebastian Faulks.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Robert De Niro - fy arwr.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Wnes i astudio Celf yn Abertawe am dair mlynedd cyn mynd i'r Guildhall yn Llunden.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Ca'l plât anferth o spaghetti bolognese a dwy botel o Chianti.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Tears in Heaven gan Eric Clapton. Yn gallu uniaethu gyda'r sentiment.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Prawn cocktail, spag bol a tarten fale 'ngwraig.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Donald Trump - i ga'l deall beth uffach sy'n mynd mla'n yn ei ben.
Pwy wyt ti'n ei enwebu i Ateb y Galw?
Steffan Rhodri
[Ond wythnos nesaf, bydd 'na westai arbennig Eisteddfodol yn Ateb y Galw]