Ennill y dwbl yn Eisteddfod Powys yn 'fendigedig'
- Cyhoeddwyd
Cafodd hanes ei greu yn Eisteddfod Powys dros y penwythnos wrth i'r un person ennill y goron a'r gadair.
Dyma'r tro cyntaf erioed i hyn ddigwydd yn hanes yr eisteddfod, a fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 200 ymhen dwy flynedd.
Karina Wyn Dafis o Lanbrynmair enillodd y goron am gasgliad o waith creadigol ar y thema 'Afon', a'r gadair am gerdd ar y testun 'Llif'.
Cafodd ganmoliaeth uchel gan y ddau feirniad; Manon Steffan Ros a'r Prifardd Ceri Wyn Jones.
'Teimlad bendigedig'
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Mrs Dafis, sy'n athrawes ac yn olygydd llawrydd: "Un o benwythnose mwya 'mywyd i... Dwi'n dal mewn sioc!
"A diolch i garedigion Eisteddfod Powys am ddwy seremoni arbennig iawn fydd wedi'u serio ar fy nghof am byth."
Dyma'r drydedd gwaith i Mrs Dafis ennill y goron yn Eisteddfod Powys - gyda'r dair y mae wedi'u cipio wedi eu gwneud gan y gof arian John Price, Machynlleth.
Roedd seremoni y coroni yn ddigwyddiad teuluol gan mai ei gŵr - y canwr Aled Wyn Davies - a ganodd Cân y Coroni iddi.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Mrs Dafis: "Roedd e'n dipyn o sioc derbyn y llythyr ac ro'dd yr un llythyr yn sôn am y ddwy fuddugoliaeth.
"Bu'n rhaid i fi gael Aled i ddarllen y llythyr eto i fi er mwyn gwneud yn siŵr bo fi wedi deall yn iawn.
"Roedd e'n deimlad bendigedig ennill y ddwy wobr a chreu hanes ond doeddwn ni ddim yn gwybod fy mod wedi gwneud hynny tan bo fi'n cael fy nghadeirio ar y llwyfan."
'Stori hynod o drist'
Er bod testun y ddau waith yn debyg, dilyn trywydd cwbl wahanol a wnaeth Mrs Dafis yn y gweithiau.
Dilynodd hanes ei bywyd ei hun yn ei chyfres o straeon ar yr afon, gan ddechrau'r gyda'r tarddiad yn Nyffryn Aeron hyd at yr aber - y cyfnod diweddaraf fel athrawes.
"Rwy'n enedigol o Giliau Aeron ac mae'r stori gyntaf yn ymwneud â fy mherthynas gyda fy nhad-cu, mae 'na un arall yn deillio o fy nghyfnod ym Machynlleth ac mae'r olaf yn stori hynod o drist sy'n deillio o fy nghyfnod dysgu.
"Rwy'n cofio dysgu merch fach oedd â'i bryd ar deithio ac yn anffodus bu hi farw yn eu hugeiniau tra'n crwydro Awstralia."
Gwyrth a chreulondeb byd natur oedd thema'r gerdd: "Meddwl oeddwn i am fy ffrindiau yn gweld y gwenoliaid yn nythu ac fel roedden nhw eu hunain yn dyheu am blant.
"Ond mae eu hymdrechion wedi methu er gwaethaf triniaeth IVF, ar ddiwedd y gerdd mae'r nyth yn dadfeilio."
Mae'r gwaith buddugol i'w weld yng nghyfansoddiadau'r eisteddfod.
'Cwrdd ag Aled ar yr union lwyfan'
Ychwanegodd Mrs Dafis bod y penwythnos yn un "arbennig" am mai "ar yr union lwyfan hwn yn Y Drenewydd y gwnes i gyfarfod ag Aled 18 mlynedd yn ôl".
"Ie fi enillodd y gadair yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru y flwyddyn honno ac Aled oedd yn canu Cân y Cadeirio."
Dywedodd Derwydd Gweinyddol Eisteddfod Powys, Huw Ceiriog fod hon yn "eisteddfod arbennig iawn ac yn eisteddfod hanesyddol".
"Ry'n yn falch hefyd bod 13 wedi cystadlu am y gadair a thri am y goron."
Yn 2017 fe fethodd Eisteddfod Powys â dod o hyd i gartref - hynny'n rhannol am fod cymaint o ymdrechion wedi mynd i sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yn 2015.
"Ond ry'n yn falch fod pethau ar i fyny eleni," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2017