Erlyn cwmnïau am ffrwydrad lle bu farw 4 yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad yn ystod gwaith cynnal a chadw arferol ar y safle
Mae dau gwmni yn cael eu herlyn yn dilyn digwyddiad mewn purfa olew yn Sir Benfro saith mlynedd yn ôl, lle fu farw pedwar o weithwyr.
Bydd cwmnïau Valero Energy UK Limited a B&A Contracts yn wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Bu farw Julie Jones, 54, Andrew Jenkins, 33, Dennis Riley, 52, a Robert Broome, 48 yn dilyn ffrwydrad ym mhurfa Penfro ym Mehefin 2011.
Bydd y diffynyddion yn ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd ar 24 Medi.
Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Jane Lassey: "Yn dilyn ymchwiliad trylwyr a hynod o fanwl, rhannau mawr o hynny ar y cyd gyda Heddlu Dyfed-Powys, rydym wedi dod i'r casgliad fod digon o dystiolaeth i ddod ag achos troseddol".
Roedd y safle dan berchnogaeth cwmni Chevron cyn cael ei werthu yn Awst 2011.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2015
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2012