Deddf atal taro plant yn hollti barn y cyhoedd
- Cyhoeddwyd
Mae barn y cyhoedd wedi ei hollti ar gynlluniau i ddileu'r hawl i rieni daro eu plant fel cosb.
Dangosodd ymgynghoriad y llywodraeth bod 50.3% yn cytuno y byddai'r ddeddfwriaeth yn diogelu hawliau plant.
Bwriad Llywodraeth Cymru ydy cyflwyno mesur i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol am daro plentyn.
Mae ymgyrchwyr wedi dweud y byddai'r newid yn golygu bod miloedd o rieni'n cael eu hystyried yn droseddwyr, ond mae elusen yr NSPCC yn dweud bod y newid yn "synnwyr cyffredin".
50.3% yn cytuno
O'r 1,890 o ymatebion i'r ymgynghoriad, roedd 50.3% yn cytuno y byddai'r ddeddfwriaeth yn diogelu hawliau plant, tra bod 48.1% yn anghytuno.
Dywedodd gweddill yr ymatebwyr nad oedden nhw'n gwybod.
Cafodd bwriad y llywodraeth i newid y drefn ei gyhoeddi yn y rhaglen ddeddfwriaethol ym mis Gorffennaf.
Wrth gyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad, dywedodd y Gweinidog Plant bod y llywodraeth "wedi ymrwymo" i dynnu'r amddiffyniad o gosb resymol, fyddai'n "gwahardd rhieni rhag cosbi eu plant yn gorfforol a hefyd y rhai hynny sy'n gweithredu in loco parentis".
Ychwanegodd Huw Irranca-Davies: "Er bod gan rieni y prif gyfrifoldeb dros fagu eu plant, mae gan Lywodraeth Cymru rôl benodol iawn mewn perthynas â chreu cymdeithas y gall plant gael eu magu ynddi sy'n ddiogel ac yn gefnogol."
Mae grŵp o rieni o'r enw Byddwch yn Rhesymol Cymru yn galw ar y llywodraeth i roi'r gorau i'r cynlluniau, gan ddweud bod gwahaniaeth rhwng taro a cham-drin.
Dywedodd Lowri Turner, mam i un plentyn, y byddai'r newid yn golygu fod rhieni cyffredin yn cael eu hystyried yn "ddim gwell na chythraul treisgar neu rywun oedd yn cam-drin plant".
"Maen nhw'n ceisio dweud fod pelten ysgafn ar gefn y coes gan fam gariadus yr un peth a rhoi cweir i'ch plant."
'Synnwyr cyffredin'
Ond mae elusen NSPCC Cymru'n dweud bod yr ymgynghoriad yn "gam pwysig" a'i fod yn "galonogol gweld lefel yr ymateb gan y cyhoedd".
Ychwanegodd llefarydd: "Rydyn ni'n credu ei fod yn newid synnwyr cyffredin sy'n canolbwyntio ar degwch a chydraddoldeb i blant.
"Mae'n anghywir bod amddiffyniad cyfreithiol sydd ddim yn bodoli mewn achos o ymosod yn erbyn oedolyn yn gallu cael ei ddefnyddio i gyfiawnhau taro plentyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2017