'Meddyliwch cyn gwasgaru llwch anwyliaid ar Yr Wyddfa'
- Cyhoeddwyd
Mae yna apêl ar bobl i feddwl ddwywaith cyn gwasgaru llwch eu hanwyliaid ar lethrau'r Wyddfa yn sgil pryderon bod yr arferiad yn creu niwed amgylcheddol.
Yn ôl amgylcheddwyr a swyddogion Parc Cenedlaethol Eryri mae'r mater yn un sensitif ond yn un sydd angen ei drafod oherwydd yr effaith ar y tirwedd.
Mae'r niwed wedi bod yn waeth eleni wedi cyfnod hir o dywydd sych.
"Does dim ffordd hawdd o drafod y mater," meddai swyddog mynediad Parc Cenedlaethol Eryri, Peter Rutherford, sy'n dweud bod yr arferiad hefyd yn gallu amharu ar bleser ymwelwyr eraill â'r ardal.
"Mae pobol yn ypsetio o weld y llwch a gofyn be ydi o," meddai.
"Yn sicr, 'dan ni'n cydymdeimlo.... 'dan ni jest yn gofyn i bobol ailfeddwl be' ma' nhw'n bwriadu 'neud - rhoi rhodd ar ryw achos da - rhodd at y Mountain Rescue neu at y parc, neu Bartneriaeth yr Wyddfa, plannu coeden hyd yn oed."
'Cwestiwn moesol'
Mae'r broblem yn un weledol yn ôl yr ymgynghorydd amgylcheddol, Keith Jones.
"Be' sy' 'di 'neud o'n waeth o lawer flwyddyn yma ydi pa mor sych ydi. Ar ôl gwasgaru, os 'dach chi'n cael glaw mawr, 'di o'm i'w weld.
"Mae'n broblem lle ma' nhw'n gadael y bocsys ar ôl. Llygru 'di hynna. Dwi'n gweld hynna yn bob man.
"Mae'n gwestiwn moesol. Os ydi Yncl Wil neu rywun yn licio'r mynydd a dyna lle oedd ei fywyd o, dwi'm yn meddwl fedrwch chi byth ddeud 'na', os 'na fanno ydi'w gynefin, ei filltir sgwâr, fanno mae o isio bod.
"Ond dwi'n meddwl bod Yr Wyddfa yn rwbath gwahanol. Nid mynydd lleol ydi'r Wyddfa. Mae'r Wyddfa'n fynydd cenedlaethol."
Lefelau calsiwm
Er nad oes prawf pendant eto, mae pryder y bydd yna gynnydd mewn lefelau carbonadau calsiwm ym mhridd ardal copa'r Wyddfa, sydd ond yn rhyw erw o hyd.
Mae 'na waith ymchwil, medd Mr Jones, i lefel mwynau "yn enwedig y calsiwm sydd yn yr esgyrn a metalau trwm allan o fillings".
"Unrhyw beth sy'n llychlyd ac yn fach... lle ma' hwnna'n mynd? I lawr i'r cynefinoedd mwy prin sy' ar y llechweddau.
"Ond be' ydi'r ateb? Ydan ni jest yn claddu pobl a chael gwared ar fwy a mwy o dir da llawr gwlad sy'n tyfu bwyd a bob dim arall? Dwi'n meddwl ma' angen sgwrs yn fan 'na.
"Ar y funud, dwi'n meddwl mai problem weledol ydi o achos ma' pobl yn ymyrryd ar dir dy'n nhw ddim yn berchen.
"Ond hefyd i'r bobl sydd yn dilyn [unrhyw wasgariad], yn cerdded yna... dwi 'di gweld olion troed trwy'r llwch. Mae hynna'n 'neud i mi stopio a meddwl 'fyswn i isio hynna?'"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd28 Mai 2018
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2018