Galw am well gwasanaethau i bobl yn dilyn profedigaeth
- Cyhoeddwyd
Mae mam bachgen yn ei arddegau fu farw o ganser prin wedi galw am wella gwasanaethau ar gyfer teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth.
Dim ond 15 oed oedd Jack Griffiths pan fu farw, ac mae ei fam Clare Sobey yn dweud nad oes llawer o gymorth ar gael i bobl fel hi sydd wedi bod drwy'r profiad.
Mae tua 22,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru rhwng pump ac 16 oed wedi profi marwolaeth rhiant, brawd neu chwaer, ac mae tua 40,000 wedi colli ffrind.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod adolygiad ar y gweill o wasanaethau profedigaeth.
'Hunllef waethaf'
Bu farw Jack ym mis Ebrill y llynedd ac mae Ms Sobey, oedd yn gofalu amdano gartref, yn dweud nad yw hi'n teimlo y bydd hi "fyth yn hapus eto".
"Dwi'n gallu cofio'r ymgynghorydd yn cerdded lawr y coridor a dweud 'dwi'n meddwl bod angen i chi eistedd... mae wedi lledu i'w ysgyfaint, Clare, mae'n mynd i fod yn angheuol'," meddai.
"Dyna yw'r foment fyddai'r un fam yn anghofio, dyna yw hunllef waethaf pob mam."
Oni bai am weithiwr cymdeithasol Jack, oedd wedi'i ddarparu gan elusen ganser Latch, mae Ms Sobey a'i merch Lucy yn dweud nad oedd llawer o gefnogaeth ar gael iddyn nhw wedi ei farwolaeth.
Ychwanegodd Lucy: "Nes i ffonio'r gwasanaeth profedigaeth llynedd, yn meddwl y byddai'n helpu, a ro'n i'n barod i siarad am bethau... ond fe ddywedon nhw fod yn rhaid i mi aros 18 mis."
Un arall sydd wedi profi galar tebyg yw Rhian Mannings, sylfaenydd elusen 2 Wish Upon A Star, sy'n cynorthwyo'r rheiny sydd wedi colli plentyn neu berson ifanc dan amgylchiadau sydyn a thrawmatig.
Collodd Mrs Mannings ei mab blwydd oed, George, yn 2012, a bum niwrnod yn ddiweddarach fe wnaeth ei gŵr Paul ladd ei hun.
"Fe wnaethon ni adael yr ysbyty ar ôl colli ein mab, a'r unig beth oedd gennym ni oedd darn o bapur gyda hen rifau ffôn arno," meddai.
"Chlywson ni ddim byd gan unrhyw un wedyn. Bum niwrnod yn ddiweddarach fe wnaeth fy ngŵr, yn ei alar, ladd ei hun, a chawson ni dal neb yn dod i gefnogi'r teulu.
"Does neb ar fai am farwolaeth fy ngŵr, ond dwi'n gwybod petai strwythur iawn o gefnogaeth wedi bod yno y byddai yma heddiw."
'Rhwydwaith well'
Llynedd fe wnaeth elusen Mrs Mannings helpu dros 200 o deuluoedd, ond mae'r sefydliad yn dibynnu'n llwyr ar roddion.
Mae Llywodraeth Cymru'n rhoi £6.4m i'r byrddau iechyd ar gyfer gofal diwedd bywyd a £2m yn rhagor i'r Bwrdd Gofal Diwedd Bywyd ar gyfer ariannu blaenoriaethau eraill.
Maen nhw hefyd yn darparu £150,000 y flwyddyn i elusen Cruse Cymru ar gyfer eu gwasanaeth plant a phobl ifanc - ond yn ôl rhai arbenigwyr mae'r ddarpariaeth yn rhy wasgaredig.
"Mae 'na wahaniaethau sylweddol yn amlwg, ac mae problemau hefyd wrth gael mynediad atyn nhw," meddai'r Athro Ceri Phillips o Brifysgol Abertawe.
"Mae pobl sydd angen gwasanaethau profedigaeth angen iddo fod ar gael yn syth, mwy neu lai."
Ychwanegodd elusen Latch, sy'n helpu teuluoedd yn ne a chanolbarth Cymru, eu bod nhw yno i gynorthwyo "pan mae angen".
"Yn amlwg petai rhwydwaith well o gefnogaeth yn y lle cyntaf fyddai dim angen i ni lenwi'r bwlch, ond fe allwch chi weld drwy gydol triniaeth plentyn bod rhai pethau sydd methu cael eu darparu gan y GIG," meddai Stephen Price o'r elusen.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein Cynllun Darparu Gofal Diwedd Bywyd yn ymrwymo byrddau iechyd i ddarparu'r gefnogaeth briodol ar gyfer anghenion teuluoedd a gofalwyr sydd wedi cael profedigaeth."
Mae Ms Sobey, sydd â phedwar o blant eraill, yn croesawu'r bwriad i adolygu'r gwasanaethau ac yn dweud ei bod yn bwriadu sefydlu elusen er cof am ei mab.
Ychwanegodd ei merch, Lucy: "Fe allwn ni geisio sicrhau nad yw'r un teulu arall yn mynd drwy beth 'dyn ni wedi, a dyna fyddai e wedi hoffi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd9 Mai 2017
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2016