Cadw staff yn hen atomfa Trawsfynydd wedi i ddyn dresbasu

  • Cyhoeddwyd
atomfa trawsfynyddFfynhonnell y llun, Google

Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl digwyddiad ble bu'n rhaid i'r holl staff ar safle hen atomfa Trawsfynydd gael eu cadw i mewn am resymau diogelwch.

Fe wnaeth Nicolas Bates, 29 oed o Coventry, neidio dros ffens er mwyn cyrraedd safle'r hen orsaf niwclear yn Eryri, gafodd ei ddigomisiynu yn 1991.

Dywedodd Bates ei fod yno i dynnu lluniau, ac fe dreuliodd tua 20 munud ar y safle cyn i swyddogion diogelwch ei weld.

Cafodd ei ddal gan swyddogion nes i'r heddlu gyrraedd, ac fe gafwyd hyd i gyllell a chamera arno yn ogystal ag eitemau eraill yn ei gar.

'Risg o niwed'

Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod 100 o staff wedi gorfod cael eu cadw i mewn yn dilyn y digwyddiad ar 16 Mawrth oherwydd bod Bates wedi tarfu ar ddiogelwch y safle.

Pan gafodd car Bates ei archwilio daethpwyd o hyd i gyllell arall, yn ogystal ag eitemau fel grenadau mwg.

Doedd gan Bates ddim yswiriant ar ei gar chwaith, a dim ond trwydded dros dro.

atomfa trawsfynyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Nicolas Bates ddringo ffens chwe throedfedd o uchder er mwyn cyrraedd safle'r hen atomfa

Dywedodd y barnwr Gwyn Jones: "Roeddech chi'n honni bod hwn yn safle segur a'ch bod chi wedi cael y wybodaeth honno o Wicipedia.

"Fodd bynnag, mae synnwyr cyffredin sylfaenol a gwybodaeth elfennol o ffiseg yn awgrymu bod safleoedd niwclear yn llefydd peryglus a bod dal risg posib o niwed o ymbelydredd."

Dywedodd Sion Hughes ar ran yr amddiffyniad nad oedd y cyllell gafodd ei ganfod ar Bates wedi ei ddefnyddio i fygwth unrhyw un, ond bod ei hobi o dynnu lluniau wedi ei gael i drwbl.

Gorchmynnodd y barnwr y dylid cymryd y lluniau o'r safle yn Nhrawsfynydd oddi ar Bates, oherwydd y gallen nhw "o bosib achosi risg o niwed" petawn nhw yn y dwylo anghywir.

Cafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o 26 wythnos o garchar, gan gynnwys 16 wythnos am dresbasu ar y safle.