Arian i brentisiaid heddlu yn dilyn ffrae am ddatganoli

  • Cyhoeddwyd
swyddogion heddluFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent

Mae disgwyl i luoedd heddlu yng Nghymru gael cyllid ychwanegol ar gyfer hyfforddiant yn dilyn ffrae am arian sydd wedi'i golli oherwydd datganoli.

Daw hynny wedi i bwyllgor Cynulliad rybuddio bod y lluoedd yn talu £2m y flwyddyn tuag at ardoll prentisiaeth Llywodraeth y DU - ond yn cael dim byd yn ôl.

Dywedodd ACau fod yr arian yn "disgyn drwy'r bwlch datganoli" gan fod hyfforddi wedi'i ddatganoli, ond bod plismona ddim.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y Swyddfa Gartref wedi addo cyllid i brentisiaid heddlu yng Nghymru o 2019.

'Dim cyllid sylweddol'

Mae'r ardoll prentisiaid, gafodd ei gyflwyno ym mis Ebrill 2017, yn cael ei dalu gan bob cyflogwr yn y DU sydd yn talu gwerth dros £3m o gyflogau - gan gynnwys lluoedd heddlu a chynghorau.

Mae'r arian yna wedyn yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi gweithwyr sydd heb radd.

Ond mae Ffederasiwn yr Heddlu wedi rhybuddio y gallai Cymru fod yn colli recriwtiaid posib am nad oedden nhw'n cael yr un arian a Lloegr i'w hyfforddi.

Mae adroddiad gan bwyllgor economi, seilwaith a sgiliau'r Cynulliad wedi dweud bod lluoedd yn Lloegr yn gallu cael £24,000 ar gyfer pob swyddog maen nhw'n hyfforddi dros gyfnod o dair blynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gododd y ffrae gan fod prentisiaethau a sgiliau wedi'u datganoli, ond bod plismona ddim

Ond gan fod prentisiaethau wedi eu datganoli, mae'r arian ar gyfer Cymru'n cael ei anfon yn syth i Gaerdydd ac mae gweinidogion yn gallu ei wario fel y mynnant.

Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw'r ardoll "wedi darparu cyllid sylweddol ychwanegol i Gymru", gan ddweud bod Llywodraeth y DU hefyd wedi torri cynlluniau prentisiaethau eraill.

"Ers i ymchwiliad y pwyllgor gael ei gynnal, mae'r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau y byddan nhw'n darparu cyllid ar gyfer lluoedd heddlu Cymru er mwyn eu caniatáu nhw i gomisiynu prentisiaethau o 2019 ymlaen," meddai llefarydd.

"Rydym hefyd wedi darparu £400,000 i helpu lluoedd heddlu i baratoi ar gyfer eu hanghenion hyfforddi yn y dyfodol."

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.