Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol
- Cyhoeddwyd

Mae un dyn yn dal ar goll yn dilyn y tân ym mis Gorffennaf
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys yn dilyn tân difrifol yng ngwesty Tŷ Belgrave, Aberystwyth.
Fe ymddangosodd Damion Harris, 30 oed, gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener wedi ei gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Digwyddodd y tân yn ystod oriau mân y bore ar 25 Gorffennaf.
Achubwyd 12 o bobl oedd yn yr adeilad yn ddiogel ond mae un dyn yn dal ar goll.
Cafodd Mr Harris ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron llys eto ddiwedd mis Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2018
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd7 Awst 2018