Carcharu dyn am stelcio ei gyn-gariad yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Conner JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent

Mae stelciwr a wisgodd fel heddwas milwrol i geisio cael mynediad i neuadd breswyl ei gyn-gariad wedi cael ei garcharu am 30 mis.

Roedd gan Conner Jones, 19 oed, ddryll a cherdyn adnabod ffug, ond mi wrthododd staff diogelwch Prifysgol Aberystwyth adael iddo gael mynediad.

Clywodd Llys y Goron Abertawe iddo geisio chwilio am Megan Francis, yn dilyn cyfnod o dros flwyddyn yn ei stelcio.

Cyfaddefodd Jones ei fod wedi bod yn stelcio Ms Francis a'i fod wedi bod yn ei dilyn hi ac wedi anfon negeseuon testun di-ri ati.

Bu'r ddau mewn perthynas am flwyddyn, ond fe chwalodd y berthynas yn 2016 a bryd hynny ddechreuodd Jones stelcio Ms Francis, gan ei dilyn yn ei gar a mewngofnodi i gyfrifon ei chyfryngau cymdeithasol.

Yn ystod y cyfnod, fe wnaeth Jones, sy'n byw yng Nghaerffili, hefyd ymuno gyda'r fyddin a dechreuodd Miss Francis ddilyn cwrs gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Siaced lachar gyda bathodyn

Ar 17 Mawrth eleni, aeth Jones i gampws Penglais wedi gwisgo fel heddwas milwrol yn honni ei fod yn chwilio am filwr oedd ar goll.

Yn ôl Ian Wright, yr erlynydd, roedd Jones yn gwisgo siaced felen lachar gyda bathodyn yr heddlu milwrol ar y cefn, beret coch, ac yn cario dryll, baton a phâr o gyffion.

Cyflwynodd Jones ei hun fel is-gorpral a dywedodd ei fod yn credu bod y milwr coll yn Bloc 19 ar y campws, lle'r oedd Ms Francis yn byw.

Ni chafodd fynediad.

Yn ogystal, sylwodd Ms Francis ar gar Jones ger ei char hithau a ffonio'r heddlu.

Cafodd Jones ei arestio'r diwrnod canlynol ac fe wnaeth yr heddlu ddarganfod y wisg, dryll, baton, cyffion a phelenni yng nghist ei gar.

Ffynhonnell y llun, Nigel Callaghan/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jones wedi ceisio cael mynediad i ran o gampws Penglais

Trosedd 'annifyr a rhyfedd'

Yn ôl bargyfreithiwr Jones, Harry Baker, dywedodd ei fod yn y fyddin ar y pryd, ond ei fod wedi prynu gwisg yr heddlu milwrol ar y we.

Yn ôl Mr Baker, roedd Jones wedi ymddwyn yn "anaeddfed".

Dywedodd y Barnwr Geraint Roberts fod ymddygiad Jones yn "peri cryn dipyn o bryder iddo".

"Beth oedd e'n mynd i wneud i Ms Francis o ddarganfod ei hun yn sefyll o'i blaen hi mewn gwisg filwrol a beret coch yn gwisgo dryll?", meddai.

"Mae'n annifyr ac yn rhyfedd. Mae'n rhaid ei fod wedi treulio oriau yn ymchwilio, ac i beth?

"Credaf fod rhywbeth llawer mwy sinistr am y drosedd, ac mae'n bryder imi ei fod wedi dod â phelenni ar gyfer y dryll."

Cafodd Jones orchymyn yn ei wahardd rhag cysylltu eto gyda Ms Francis.