Dargyfeirio am 27 milltir ar ffordd Blaenau'r Cymoedd

  • Cyhoeddwyd
codi pontFfynhonnell y llun, Costain

Bydd darn pum milltir o'r A465 - Ffordd Blaenau'r Cymoedd - yn cau ddydd Gwener a dros y penwythnos er mwyn gwneud gwaith i uwchraddio'r ffordd.

Wrth i'r darn rhwng Bryn-mawr (Blaenau Gwent) a Gilwern (Sir Fynwy) gau, bydd cerbydau'n cael eu dargyfeirio am 27 milltir drwy Bont-y-pŵl a Chrymlyn ar hyd yr A467, A472 a'r A4042.

Dyma ran ddiweddaraf y cynllun gwerth £800m i uwchraddio'r ffordd, ac fe fydd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng 20:30 ddydd Gwener a 06:00 fore Llun.

Bydd contractwyr yn gosod pont droed ac yn gwneud gwaith pellach ar Bont Gateway.

Daw wedi i'r A465 fod ynghau am gyfnod wedi tân lori ddydd Mercher. Mae'r rhan rhwng Cefn Coed a Dowlais Uchaf bellaf ar agor.

£270m

Fe fydd y darn yma o'r cynllun yn costio tua £270m ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn hanner olaf 2019.

Eisoes mae cwestiynau wedi eu gofyn am orwario ar y cynllun.

Mae'n rhan o gynllun ehangach i greu ffordd ddeuol rhwng Abertawe a chanolbarth Lloegr.

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi disgrifio'r ffordd fel "gwythïen hanfodol i'r rhwydwaith gludiant rhwng gorllewin Cymru a chanolbarth Lloegr".

Bydd y cynllun cyfan yn golygu lledu'r ffordd bresennol drwy geunant Clydach, sy'n cael ei ystyried yn un o ardaloedd amgylcheddol pwysicaf de Cymru.