Ymgyrchwyr i geisio atal gwaredu mwd Hinkley yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr gwrth-niwclear yn paratoi i gymryd camau cyfreithiol i atal cynlluniau i waredu mwd gorsaf niwclear Hinkley Point ar safle ym Mae Caerdydd.
Cafodd ei gyhoeddi ddydd Llun bod y cynllun i waredu'r mwd yng Nghymru yn mynd yn ei flaen.
Mae Cynghrair Gwrth-Niwclear Cymru (WANA) yn bwriadu trefnu gwaharddeb i atal y penderfyniad, gan honni na chafodd asesiadau priodol eu cynnal.
Serch hynny, mae llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi pwysleisio "na fydd y gweithgaredd arfaethedig yn niweidio pobl na'r amgylchedd", ac mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon gyda phrofion CNC.
Bwriad EDF yw gwaredu mwd o'r ardal ger hen atomfeydd Hinkley Point A a B yng Ngwlad yr Haf ar safle dros filltir i'r môr o Fae Caerdydd.
Sicrhau asesiad trylwyr
Mae Richard Bramhall, cadeirydd WANA yn galw ar Lesley Griffiths AC i atal y cynllun, gan honni na chafodd Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol priodol ei gynnal.
Dywedodd Mr Bramhall: "Credwn fod y penderfyniad i alluogi'r Drwydded Forol yn anghyfreithlon ac rydym wedi cymryd camau cyfreithiol i atal y cynlluniau.
"Mae gan Lesley Griffiths y gallu i ymyrryd ac rydym yn galw arni fel Ysgrifennydd yr Amgylchedd i wneud hynny i sicrhau bod asesiad trylwyr o'r risgiau wedi cael ei wneud - byddai gwneud unrhyw beth arall yn anghyfrifol."
Mae AC Canol De Cymru, Neil McEvoy wedi datgan bod lle i ddefnyddio'r egwyddor ragofalus, sydd i'w weld yn erthygl 191 o'r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd ac "atal y drwydded forol ar frys tan bod profion trylwyr ac addas wedi cael eu gwneud".
Mae CNC wedi datgan yn y gorffennol nad yw'r mwd yn niweidiol i bobl, yr ymgylchedd na bywyd gwyllt yr ardal.
Wrth ymateb i honiadau diweddaraf yr ymgyrchwyr am ddiffyg asesiad i effaith y mwd ar yr amgylchedd, dywedodd John Wheadon, Rheolwr Gwasanaeth Trwyddedu CNC: "Wnaethon ni roi'r drwydded forol hon i NNB Genco ym mis Gorffennaf 2014, gan roi caniatâd iddynt waredu gwaddod a garthwyd o wely Môr Hafren o safle datblygu Hinkley Point C yn safle gwaredu Cardiff Grounds."
Yn ôl Mr Wheadon, cafodd "pob elfen o'r cais" ei ystyried yn drylwyr a chafodd gwaddod o'r safleoedd carthu eu profi gan arbenigwyr annibynnol "yn unol â safonau a chanllawiau rhyngwladol".
Dywedodd: "Dangosodd y canlyniadau fod y deunydd yn addas i'w waredu yn y môr ac rydym yn hyderus na fydd y gweithgaredd arfaethedig yn niweidio pobl na'r amgylchedd."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod adroddiad gan bwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol wedi dangos bod CNC wedi "gwneud eu penderfyniad ar sail cyngor arbenigol".
Yn ogystal, dywedodd bod yr adroddiad hefyd "wedi cadarnhau bod pob prawf a phob asesiad cafodd eu cynnal wedi dangos bod y gwaddod yn ddiogel, nad yw'n peri unrhyw risg radiolegol i iechyd pobl nac i'r amgylchedd, a'i fod yn ddiogel ac yn addas ei waredu yn y môr."
Nid oedd gan EDF Energy unrhyw sylw ar y mater.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2018
- Cyhoeddwyd27 Awst 2018
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2018