Ateb y Galw: Yr actor Llŷr Evans
- Cyhoeddwyd

Yr actor Llŷr Evans sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Jonathan Nefydd yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Gorfod mynd i'r gwely wedi i'r clociau droi yn y gwanwyn. Roedd hi dal yn olau a finnau'n dal i glywed plant yn chware tu allan, ac yn flin oherwydd anhegwch y sefyllfa.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Ian Rush. Ges i ngeni yn yr un gwely â fo yn 'sbyty Llanelwy (ddim yr un pryd yn amlwg). Roedd ei luniau fo ym mhob man dros waliau'n stafell wely - ro'dd y tash 'na yn 'neud wbeth i fi!

Tybed ydy Ian Rush yn gwybod ei fod wedi cael ei eni yn ur un gwely â Llŷr Evans?!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Trip ysgol Sul i Southport yn y 70au a fy mrawd yn mynnu fy mod yn mynd efo fo ar reid yn y ffair. Ma' raid bod y reid 'chydig yn fentrus i hogyn bach achos ar ôl dod i ffwrdd mi chwydais dros fy hun ym mhob man.
Roedd rhaid fi stripio lawr i 'mond fy nhrôns, a fy mam a mrawd yn trio fy argyhoeddi bo' nhw'n edrych fel tryncs nofio cŵl.
Doeddan nhw ddim.
Bu rhaid i mi dreulio gweddill y diwrnod yn cerdded rownd Southport mewn y-fronts coch a glas, seis 5-6, tra'n drewi o chwd.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Paddington 2, Llandudno. Y mab yn ddewr, ei fam o'n rhacs, ac ambell i ddeigryn yn cronni yn fy llygaid.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Torri gwinedd fy nhraed efo'n mysedd yn y gwely. Gyrru'r wraig yn mental.

O Archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Felinheli, Dyffryn Clwyd, a'r olygfa o Wern, dros fae Nefyn draw am Borthdinllaen: ysbrydoledig.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
15/05/10.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Six Foot Two.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Amhosib dewis. Dwi'n darllen lot o lyfrau ditectif - dylanwad fy nhad - a ffilmiau plant sy'n mynd â hi ar y funud. Ratatouille yn ffefryn gen i.

Mae Llŷr yn mwynhau'r cartŵn am lygoden sydd wrth ei fodd yn coginio
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Jurgen Norbert Klopp: dyn difyr, doniol a dawnus.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n casglu fests cneifio - croeso i unrhyw un gyfrannu.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Coelcerth ar draeth, ben mynydd, neu mewn coedwig. Teulu, ffrindiau, soundsystem, lluniaeth ysgafn a raffl!
Beth yw dy hoff gân a pham?
Unwaith eto, amhosib dewis. Dibynnu pa hwylie sydd arna i. Dwi newydd ddod nôl o redeg a'r gân dwytha cyn colapsio oedd Yes! gan Colourmusic.

Llŷr, a'i frawd Rhys, oedd sêr y ffilm gwlt o Abertawe - 'Twin Town'
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Dwi'm yn fwytwr mawr i fod yn onest. Sardîns ffres wedi'u grilio efo salad a photel o win gwyn sych i gychwyn. Yna rib-eye, chips a roasted vine tomatoes efo lager. Dim pwdin.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Y mab, er mwyn profi be' ma'i fel i gael staff personol 24/7.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Rhodri Meilir