Sicrwydd 'buan' am ariannu cynnydd tâl athrawon Cymru

  • Cyhoeddwyd
dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Theresa May wedi awgrymu y gallai Llywodraeth y DU gyfrannu arian ar gyfer codi tâl athrawon yng Nghymru.

Cyhoeddwyd yn San Steffan ym mis Gorffennaf y byddai athrawon yng Nghymru a Lloegr yn cael codiad cyflog hyd at 3.5%.

Doedd dim sôn am sut y byddai'r cynnydd yn cael ei ariannu yng Nghymru, dim ond manylion am y trefniadau yn Lloegr.

Yn ystod sesiwn wythnosol holi'r Prif Weinidog ddydd Mercher fe ofynnodd AS Plaid Cymru, Ben Lake a fyddai arian yn cael ei roi ar gyfer Cymru, ac fe atebodd Mrs May: "Bydd y Trysorlys yn amlinellu hynny yn fuan."

Mae'r cyfrifoldeb dros osod cyflogau athrawon yng Nghymru yn y broses o gael ei ddatganoli o San Steffan, ond fydd y newid ddim yn dod i rym tan 2019.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi honni y byddai'r codiad cyflog yn arwain at lai o athrawon a llai o arian ar gyfer ysgolion oni bai bod Llywodraeth y DU yn rhoi cyllid ychwanegol.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gododd Ben Lake y mater yn ystod sesiwn wythnosol holi'r Prif Weinidog

Wrth godi'r mater gyda Mrs May yn Nhŷ'r Cyffredin, fe ofynnodd Mr Lake a fyddai'r prif weinidog yn ymyrryd i wneud yn iawn am fethiant y llywodraeth i egluro beth oedd y trefniadau ariannu yng Nghymru "a sicrhau nad athrawon a disgyblion Cymru fydd yn talu'r pris".

Dywedodd Mrs May ei bod yn yn dymuno "rhoi sicrwydd... bydd y Trysorlys yn amlinellu hynny yn fuan".

Cydweithio mewn cyfnod anodd

Daeth rhybudd ddydd Mercher gan arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot eu bod yn gorfod ystyried diswyddiadau gwirfoddol o fewn ysgolion os na ddaw cyllid neilltuol i ymdopi â'r cynnydd yn nhâl athrawon.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi cydweithio ag awdurdodau lleol i geisio gwarchod gwasanaethau lleol yng Nghymru rhag effeithiau gwaethaf polisïau llymder Llywodraeth y DU" a bod y cydweithio hwnnw'n parhau wrth iddyn nhw baratoi cyllideb ddrafft ar gyfer 2019/20.

Ychwanegodd eu bod yn gwerthfawrogi ymdrechion swyddogion awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol mewn cyfnod "anodd".

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae cyllid craidd awdurdodau lleol wedi gostwng bron £1bn, 22%, ers 2009/10 ar ôl ystyried chwyddiant, a'r gweithlu wedi gostwng tua 15% yn yr un cyfnod.

Dywedodd llefarydd mai cyflogau yw'r gost fwyaf a bod "toriadau ychwanegol posib i setliad llywodraeth leol eleni yn golygu bod cynghorau â dim dewis ond "parhau i wneud penderfyniadau anodd a blaenoriaethu gwasanaethau yn y dyfodol".