Cwest i farwolaeth bachgen ysgol 14 oed yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Bradley JohnFfynhonnell y llun, Llun Teulu

Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth bachgen yn ei arddegau a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn ysgol yn Llanelli.

Y gred yw bod Bradley John, 14 oed, wedi lladd ei hun.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan ei chwaer iau yn yr ysgol ar ddydd Mercher, 12 Medi.

Dywedodd tad Bradley wrth y BBC fod ei fab wedi cael ei fwlio yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Gatholig St John Lloyd yn Llanelli.

Yn dilyn gwrandawiad byr yn neuadd y dref Aberdaugleddau, cafodd y gwest ei ohirio gan y crwner, Mark Layton i ddisgwyl am ganlyniadau profion.

Mae disgwyl i wrandawiad pellach gael ei gynnal ar 30 Tachwedd.