Sut beth yw ennill Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel?
- Cyhoeddwyd
Nos Wener 12 Hydref, bydd cystadleuaeth Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn Llandrindod.
Mae chwech o berfformwyr mwyaf addawol Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn cystadlu am y wobr ariannol o £4,000, i'w ddefnyddio er mwyn meithrin eu talent.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs â rhai o gyn-enillwyr yr Ysgoloriaeth i glywed sut wnaeth ennill y wobr newid eu bywydau:
Mirain Haf
Mae Mirain yn wyneb cyfarwydd i nifer ohonon ni, ac wedi perfformio ar lwyfannau ac ar y sgrin ers blynyddoedd. Hi oedd enillydd cyntaf yr ysgoloriaeth, nôl yn 1999.
"Y peth dwi'n gofio fwya' ydi cael amser hyfryd gefn llwyfan efo'r cystadleuwyr eraill i gyd. Doedd 'na neb yn siwr iawn beth i'w ddisgwyl, gan mai honno o'dd y flwyddyn gynta', felly mi wnaethon ni gyd drio meddwl am y peth fel cyngerdd yn hytrach na chystadleuaeth.
"Roedd ennill yn sicr yn help pan o'n i'n cyfweld am golegau drama, o ran cael enw Bryn ar y CV, ac wrth gwrs yn ariannol hefyd. Mae Bryn yn dal i fod yn gefnogol iawn.
"Mi ges i fy nerbyn i'r Royal Academy of Music flwyddyn ar ôl ennill, ac wedi dal ati i berfformio ers hynny. Dwi newydd orffen taith gyda Gruff Rhys, gan berfformio mewn llefydd anhygoel fel Canolfan y Mileniwm a'r Barbican yn Llundain.
"Dwi hefyd yn aelod o'r band 9Bach, ac wedi cael teithio dros y byd hefo nhw, a dwi ar fin cychwyn ymarferion efo Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer eu taith nhw o'r sioe Nyrsys."
Gair o gyngor:
"'Swn i'n cynghori cystadleuwyr eleni i fod yn ddoeth wrth ddewis eu rhaglen, i ddangos eu hun ar eu gorau ac, wrth gwrs, i fwynhau'r profiad!"
Rakhi Singh
Rakhi oedd yr offerynnwr cyntaf i ennill y wobr, a hynny yn 2004 yn dilyn ei llwyddiant ar y feiolin yn Steddfod Ynys Môn.
"Roedd hi'n ddiddorol i mi fod yn cystadlu yn erbyn nifer o fathau gwahanol o gystadleuwyr, gan mod i wedi arfer cymryd rhan mewn cystadlaethau feiolin yn unig.
"Dwi ddim yn gwybod sut mae'r beirniaid yn ei wneud e, i feirniadu rhywun sy'n gwneud dawns y glocsen, yn erbyn canwr, yn erbyn rhywun ar y feiolin!
"Roedd e'n gyffrous. Ond nes i fynd i gornel ddistaw i gael llonydd a chlirio fy meddwl cyn cystadlu - ti'n cystadlu, felly ti eisiau bod yn y meddwl gorau i ti dy hun.
"Beth oedd yn braf wedyn oedd siarad 'da pobl, achos o'n i wedi gwneud y gwaith caled erbyn 'ny! Dwi ddim yn meddwl bo' ti byth yn disgwyl ennill. Dwi'n hapus os dwi'n teimlo mod i wedi gwneud fy ngorau.
"O'n i yn gadael coleg ar y pryd - roedd e'r amser perffaith - o'n i angen prynu feiolin ac angen cefnogi fy hun wrth adael coleg. Ges i gymryd amser i feddwl be' o'n i eisiau ei wneud. Nes i astudio yn breifat. Roedd e'n anhygoel i gael y gefnogaeth bryd hynny.
"Mae fy mywyd cerddorol yn newid yn rheolaidd. Bellach dwi'n rhan o sefydliad Manchester Collective sy'n dod â cherddoriaeth glasurol i'n byd ni heddiw. Mae'n fodern a ffres, ond yn dod â'r gerddoriaeth o'r gorffennol i nawr.
"Mae cerddoriaeth glasurol mor anhygoel - ond mae rhai pobl fel tasen nhw ei ofn. A dydyn ni ddim bob amser yn ei werthu yn dda iawn! Byddwn ni'n dod i Gaerdydd i deithio yn fuan, a dwi'n gyffrous iawn am hynny."
Gair o gyngor:
"Rydyn ni'n byw mewn byd eithaf swnllyd, â llawer o bethau sy'n cymryd dy sylw di - dwi'n gwneud ymdrech i beidio bod yn distracted. Rhaid i ti ddilyn dy lais mewnol a bod y gorau alli di."
Elgan Llŷr Thomas
Yn 2010, yr enillydd balch oedd y tenor o Gyffordd Llandudno, Elgan Llŷr Thomas.
"Er ei bod hi'n wyth mlynedd ers i mi gystadlu am yr Ysgoloriaeth, mae'r diwrnod yn glir yn fy nghof. Roedd yr holl broses yn fythgofiadwy, o drefnu'r rhaglen, i'r dosbarth meistr a'r noson ei hun.
"Mae yna sawl atgof melys, ond fy hoff atgof ydy'r teimlad gefais tra'n canu Anfonaf Angel am y tro cyntaf. Doedd y gân heb gael ei chyhoeddi eto a dwi'n cofio cysylltu gyda Robat Arwyn i ofyn am ganiatâd i'w chanu… un o'r e-byst pwysicaf i mi yrru erioed!
"Yn sicr, roedd ennill y gystadleuaeth hon yn ddylanwad mawr arnaf ac yn sylfaen gadarn iawn i'm gyrfa fel canwr proffesiynol.
"Roedd y wobr ariannol yn gymorth enfawr hefyd. Ariannodd fy mlwyddyn gyntaf yn y Guildhall, Llundain. Y wobr arall wrth gwrs, a'r wobr bwysicaf i mi oedd cael rhoi'r geiriau 'Enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel' ar fy CV. Agorodd hyn lawer o ddrysau i mi ac rwyf yn hynod ddiolchgar am gael y profiad unigryw hwn. Dyma wobr hynod werthfawr i berfformiwr ifanc yng Nghymru.
"Erbyn hyn, rwyf wedi bod allan o'r coleg ers dros dwy flynedd a hynny ar ôl wyth mlynedd o astudio! Yn yr amser yma, bues yn Emerging Artist gydag Opera'r Alban ac ar hyn o bryd yn Artist Harewood gydag Opera Cenedlaethol Lloegr (ynghyd â chyn-enillydd arall, Rhian Lois).
"Llynedd, mi wnes i fy debut ym Mharis gyda'r Theatre des Champs-Élysées yn Il Barbiere di Siviglia (Barbwr Seville). Byddaf hefyd yn gwneud fy debut yn America'r flwyddyn nesaf yng Ngŵyl Ojai, California."
Gair o gyngor:
"Y cyngor gorau fedra i ei gynnig i gystadleuwyr y gystadleuaeth hon yw i chi ddangos yr hyn rydych wedi'i baratoi ers wythnosau hyd eithaf eich gallu (hyd yn oed os ydych yn crynu y tu mewn!).
"Mae'n wir ei bod hi'n bwysig arddangos talent, ymarfer yn drylwyr a chynllunio rhaglen addas, ond y prif beth yw arddangos eich personoliaeth. Drwy wneud hyn byddwch yn teimlo'n ymlaciedig a chartrefol iawn ar y llwyfan. Chi fel person sy'n ennill y wobr, nid eich llais, nid eich offeryn, nid eich clocsiau… yr hyn sydd gennych i'w gynnig fel artist."
Enlli Parri
Dawnsiodd Enlli, o Gaerdydd, ei ffordd i'r brig yn 2014.
"Roedd cystadlu yn y gystadleuaeth yn anhygoel. Roeddwn i'n ifanc iawn (newydd adael yr ysgol) felly roedd yn brofiad eithaf brawychus hefyd a dweud y gwir.
"Ddim yn aml mae dawnswraig yn cael y cyfle a'r rhyddid i gyflwyno syniadau unigryw mewn slot o 12 munud. Bu'n rhaid i mi fod yn greadigol a threulio amser yn creu fy nghyflwyniad o ddim, ond dysgais lawer drwy wneud hynny.
"Roedd y penwythnos ei hun yn waith caled. Ond roedd digon o amser hefyd i gymdeithasu a dod i adnabod y cystadleuwyr eraill gan olygu bod y noson ei hun yn teimlo fel criw o ffrindiau'n cyflwyno cyngerdd yn hytrach na chystadleuaeth.
"Mae'r noson ei hun yn teimlo fel ddoe. Aeth cyfnod y perfformio heibio'n gyflym ond roedd yr eiliadau yn aros am y canlyniad yn teimlo fel oes.
"Fe gymerodd hi rai diwrnodau i mi wir sylweddoli fy mod i wedi ennill yr ysgoloriaeth. Mae gen i atgofion melys iawn o'r noson ei hun ac mae'n brofiad y byddaf yn ei drysori am byth.
"Gan mai dechrau ar fy mywyd coleg yn astudio'r ffliwt yn y Guildhall School of Music and Drama oeddwn i pan enillais, roeddwn am gadw fy mhen i lawr a gweithio'n galed, ond gan fod Bryn Terfel ei hun yn gyn-fyfyriwr y coleg cefais gryn dipyn o sylw yno!
"Roedd y profiad ei hun, a'r broses o greu cyflwyniad arbrofol yn werthfawr iawn gan ei fod wedi rhoi hyder i mi arbrofi gyda syniadau newydd.
"Graddiais o'r Guildhall gyda gradd Dosbarth Cyntaf dros yr haf ac yn ystod fy astudiaethau cefais gyfle i chwarae gyda cherddorfa'r LSO, mynychu cwrs meistr yn yr Almaen yn ogystal â chael dosbarthiadau meistr gyda nifer o ffliwtwyr blaenllaw.
"Rydw i hefyd wedi cael gwahoddiad i chwarae mewn nifer o gyngherddau gan gynnwys premier byd o ddarn a ysgrifennwyd ar gyfer un ffliwt a'r llais."
Gair o gyngor:
"Mwynhewch! Dyna'r peth pwysicaf. Yn aml rwy'n meddwl pa mor anhygoel y byddai gallu ail-fyw'r profiad, ac felly pa bynnag mor flinedig y byddwch yn teimlo yn ystod y gwaith paratoi, manteisiwch i'r eithaf ar bob eiliad - ennill neu beidio mae'n brofiad cwbl unigryw a bythgofiadwy."
Pob lwc i gystadleuwyr Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2018!
Hefyd o diddordeb: