Argymell gosod isafbris o 50c am uned o alcohol

  • Cyhoeddwyd
Poteli a chaniau alcoholFfynhonnell y llun, PA

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell isafbris o 50c am bob uned o alcohol sy'n cael ei werthu, o dan ddeddf newydd.

Fe gafodd y Mesur Iechyd Cyhoeddus (Isafbris Alcohol) (Cymru) 2018 ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mehefin cyn derbyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Awst.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething mai 50c yr uned yw'r pris sy'n cael ei argymell wrth iddo lansio ymgynghoriad ar hynny.

O dan y ddeddf newydd, fe fydd yn drosedd gwerthu alcohol am lai na'r isafbris fydd yn cael ei bennu gan gyfuniad o'r Isafbris Uned, cryfder yr alcohol a'i faint.

Nod y ddeddf yw targedu alcohol rhad a chryf, a bydd y drefn newydd yn dod i rym yn haf 2019.

'Lleihau niwed'

Mae dadansoddiad diweddar gan Brifysgol Sheffield yn amcangyfrif y bydd isafbris o 50c/uned yn:

  • Effeithio ar bron hanner y gwerthiant alcohol sy'n cael ei brynu gan yfwyr niweidiol, ond ychydig dros 20% o'r alcohol sy'n cael ei brynu gan yfwyr cymedrol;

  • Yn arwain at 66 yn llai o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol bob blwyddyn;

  • Yn arwain at 1,281 yn llai o achosion ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol bob blwyddyn.

Dywedodd Mr Gething: "Nod cyflwyno isafbris alcohol yn y pen draw yw lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol - gan gynnwys faint sy'n mynd i ysbytai neu'n marw o ganlyniad i alcohol - drwy leihau faint y mae yfwyr 'niweidiol' yn yfed.

"Yn benodol mae'r mesur yn anelu at warchod iechyd yfwyr niweidiol - gan gynnwys pobl ifanc - sy'n tueddu i yfed mwy o alcohol rhad a chryf.

"Byddai gosod yr isafbris uned yn uchel yn effeithio ar gyfran uwch o'r math yma o alcohol, ond mae angen cydbwysedd gan fod yr effaith hefyd yn fwy ar yfwyr cymedrol, yn enwedig rhai mewn grwpiau difreintiedig

"Wedi ystyried yn ofalus, fy newis felly yw gosod yr isafbris uned ar 50c. Ond fe fyddwn ni nawr yn casglu barn unigolion, busnesau, cyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill am yr isafbris yma."