Methiannau Cwm Taf: 'Cyfaddawdu hawliau dynol'

  • Cyhoeddwyd
Cwm TafFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae pencadlys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Ysbyty Dewi Sant ym Mhontypridd

Bu'n rhaid i ddyn bregus ddisgwyl am ddwy flynedd cyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gymryd camau priodol fel rhan o'i driniaeth, yn ôl Ombwdsmon Cymru.

Roedd y dyn angen asesiadau iechyd meddwl am anhwylder sbectrwm awtistaidd.

Dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett, bod Mr B (dienw) wedi dioddef y "sarhad o fyw mewn cyflwr o unigedd", gydag ansawdd bywyd cyfyngedig, o ganlyniad i oedi hir gan arbenigwyr.

Gwnaeth Mrs A (dienw) y gwyn ar ran ei mab. Dywedodd iddi weld ei mab yn brwydro i weithredu o fewn y gymdeithas am nifer o flynyddoedd, a'i fod wedi suddo i iselder dyfnach ac wedi ceisio lladd ei hun.

Dywedodd Mrs A iddi fynd â Mr B i'r Tîm Argyfwng ym Mai 2015 gan feddwl y byddai'n derbyn y gefnogaeth angenrheidiol.

Ond roedd oedi hir a pharhaus yn ei asesiadau anhwylder sbectrwm awtistaidd (ASA).

Fe gafodd yr asesiadau eu cwblhau dwy flynedd yn ddiweddarach ym Mai 2017.

Torri canllawiau

Barn yr Ombwdsmon oedd bod arfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, o gyfeirio cleifion sydd angen asesiadau ASA ac iechyd meddwl i un tîm ar y tro, yn groes i ganllaw proffesiynol ac ymarfer clinigol da, ac y gallai hawliau dynol Mr B fod wedi'u cyfaddawdu o ganlyniad i'r methiannau.

Nododd bod yr oedi yn asesiad ASA Mr B wedi'i achosi'n rhannol gan fod y Bwrdd Iechyd wedi canslo nifer o gyfarfodydd oherwydd prinder staff, ac yn rhannol gan gyfyngiadau adnoddau nad oedd yn caniatáu i drefniadau eraill gael eu gwneud.

Er i Mr B godi pryderon am ei iechyd meddwl ac am gyffuriau gwrthiselder aneffeithiol, ni chymerodd y Bwrdd unrhyw gamau.

Dywedodd yr Ombwdsmon Nick Bennett fod y bwrdd iechyd wedi mynd yn groes i ganllawiau proffesiynol ac ymarfer da
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Ombwdsmon Nick Bennett fod y bwrdd iechyd wedi mynd yn groes i ganllawiau proffesiynol ac ymarfer da

Dywedodd Mr Bennett: "Nid yw arfer y Bwrdd Iechyd o beidio cyfeirio cleifion am asesiadau iechyd meddwl ac ASA ar yr un pryd yn dderbyniol, ac mae'n methu i ddiwallu anghenion rhai o'r unigolion mwyaf bregus ein cymdeithas.

"Ni ddylid gadael unrhyw glaf i deimlo unigedd fel hyn, ac mae'n amlwg y canfuwyd y Bwrdd Iechyd yn ddiffygiol, pan roedd Mr B angen cymorth fwyaf."

Ychwanegodd: "Rwy'n falch bod Cwm Taf wedi cytuno i adolygu ei arfer cyfredol, a gobeithiaf y bydd yn sicrhau bod cleifion yn cael eu trin ag urddas a pharch yn y dyfodol."