Dramodwyr i drafod pryderon gyda rheolwyr cwmni theatr
- Cyhoeddwyd
Bydd dramodwyr yn cwrdd â rheolwyr National Theatre Wales (NTW) ddydd Sadwrn i drafod pryderon bod y cwmni'n "tanseilio" artistiaid Cymreig.
Yn eu plith bydd rhai o'r 40 o bobl a gyhuddodd y cwmni mewn llythyr o fethu â chefnogi ysgrifenwyr o Gymru.
Mae disgwyl y bydd Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn cael ei gynrychioli yn y cyfarfod yn swyddfa NTW yng Nghaerdydd.
Dywedodd y dramodwyr eu bod yn dymuno "ymroddiad i newid" gan reolwyr NTW.
Ychwanegodd llefarydd ar ran NTW eu bod yn gobeithio y bydd y cyfarfod annog "trafodaeth agored ac adeiladol sy'n mynd i'r afael â'u pryderon yn llawn".
'Diffyg cyfleoedd'
Ym mis Medi, fe ddywedodd llofnodwyr y llythyr fod cyfeiriad y cwmni ers ymadawiad y cyfarwyddwr artistig blaenorol, John McGrath yn destun pryder, gan feirniadu nifer a natur cynyrchiadau theatrig.
Cafodd y sylwadau gefnogaeth undeb yr actorion, Equity, mewn datganiad ddydd Iau yn dweud bod hi'n ymddangos bod yna ddiffyg cyfleoedd i artistiaid sydd o Gymru neu'n byw yng Nghymru.
Dywedodd yr undeb hefyd fod ethos y cwmni'n "newid, mae'n ymddangos, dan ei arweinyddiaeth artistig newydd".
Ar drothwy'r cyfarfod, dywedodd y dramodydd Tim Price, sydd wedi cydweithio â NTW yn y gorffennol, bod artistiaid Cymreig eisiau i'r cwmni eu "cydnabod".
"Rwy'n gobeithio gall hwn nodi dechrau perthynas iachach gyda National Theatre Wales lle mae safbwyntiau artistiaid theatr proffesiynol yn dechrau chwarae rhan werthfawr yng nghyfeiriad y cwmni," meddai.
"Mae'r gymuned theatr broffesiynol yn gofyn i'r cwmni newid, ac rydym yn gobeithio mai yn y cyfarfod hwn y gallai'r cwmni amlinelli ymroddiad i newid."
Dywedodd bod y dramodwyr yn fodlon cymryd rhan yn y cyfarfod er i'w cais iddo gael ei gadeirio gan berson annibynnol gael ei wrthod.
"Mae'r ysgrifenwyr yn mynd i'r cyfarfod gyda phob ewyllys da, ac yn gobeithio mai dyma ddechrau siwrne gadarnhaol i ni oll gyda'n gilydd i wneud NTW y cwmni rhagorol ac ysbrydoledig rydym yn gwybod y gallai fod."
Ymunodd cyfarwyddwr artistig presennol NTW, Kully Thiarai â'r cwmni yn 2016.
Bum mlynedd ynghynt roedd wedi cyfarwyddo sioe wedi ei seilio yn Nhre-biwt - Soul Exchange - dan ei rhagflaenydd, Mr McGrath, cyfarwyddwr artistig cyntaf NTW.
Pan gafodd ei phenodi, dywedodd Ms Thiarai mai ei bwriad oedd sicrhau fod y cwmni'n "parhau i fod yn wreiddiol, radical a pherthnasol".
Mae'r cwmni'n derbyn tua £1.5m y flwyddyn mewn refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2018
- Cyhoeddwyd21 Medi 2018
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2016