Ymchwiliad llofruddiaeth: £5,000 am wybodaeth
- Cyhoeddwyd
Mae gwobr o £5,000 yn cael ei gynnig am wybodaeth fyddai'n arwain at ddarganfod dyn mae'r heddlu am ei holi ynglŷn â llofruddiaeth dyn mewn maes carafanau.
Fe ddaeth yr heddlu o hyd i gorff Simon Clark, 54 oed, ym maes carafanau'r Grove ym Mhentywyn, Sir Gâr ar 28 Medi.
Mae'r heddlu yn awyddus i holi Steve Baxter mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywed elusen Crimestoppers Cymru, sy'n cynnig y wobr ariannol, y bydd unrhyw wybodaeth maen nhw'n ei dderbyn yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol.
'Unigolyn peryglus'
Dywedodd Ella Rabaiott, rheolwr yr elusen yng Nghymru: "Mae pedwar o bobl wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Simon, ond mae'r heddlu hefyd am holi Steve Baxter mewn cysylltiad â'r drosedd.
"Mae'n unigolyn peryglus ac rydym yn annog pobl i gysylltu â ni oes ganddyn wybodaeth amdano.
"Mae ein helusen yn trin bob gwybodaeth yn gwbl gyfrinachol. Ni fydd unrhyw un yn gwybod eich bod wedi cysylltu â ni."
Gallwch gysylltu â Crimestoppers Cymru ar 0800 555 111 neu drwy eu gwefan, dolen allanol.
Mae Mr Baxter hefyd yn cael ei adnabod fel Steve Rowley, Wayne Tidy neu William Tidy, ac mae ganddo gysylltiadau gyda gorllewin a de Cymru a de orllewin Lloegr.
Yn 5'5" o daldra mae ganddo datŵs ar ei freichiau. Mae tatŵ ar ei fraich chwith yn cynnwys yr enw Chez mewn cylchoedd, tra bod tatŵ o neidr ar ei law arall.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys y dylai unrhyw un sy'n ei weld gadw draw a chysylltu â nhw ar unwaith.
Fe wnaeth pedwar o bobl ymddangos gerbron Ynadon Llanelli'r wythnos diwethaf ar gyhuddiadau yn ymwneud â'r farwolaeth.
Cafodd dyn 40 oed ei gyhuddo o lofruddiaeth, ac fe gafodd tri o bobl eraill eu cyhuddo o gynorthwyo troseddwr.
Fe fydd y pedwar yn ymddangos eto gerbron Llys y Goron Abertawe ar 9 Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2018
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2018