Sargeant: Dim adolygiad barnwrol i natur ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carl Sargeant yn ysgrifennydd cymunedau cyn iddo golli ei swydd

Mae'r Uchel Lys wedi gwrthod cais am adolygiad barnwrol i natur yr ymchwiliad sy'n cael ei gynnal i'r modd y cafodd y diweddar Carl Sargeant ei ddiswyddo o Lywodraeth Cymru.

Roedd teulu Mr Sargeant wedi herio stwythur proses yr ymchwiliad sy'n cael ei arwain gan Paul Bowen QC.

Wrth wrthod y cais dywedodd Mrs Ustus Farbey fod yna ddarpariaeth ddigonol i'r teulu holi cwestiynau.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi "rhesymau synhwyrol yn eu cais i'r dystiolaeth gael ei chlywed yn breifat".

Roedd teulu Mr Sargeant am newid natur yr ymchwilaid er mwyn i'w cyfreithwyr fod â'r hawl i holi pawb oedd yn rhoi tystiolaeth.

Cafodd yr ymchwiliad annibynnol ei gomisiynu gan y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Mae'n ymwneud â'r modd y cafodd Mr Sargeant ei ddiswyddo o Lywodraeth Cymru'r llynedd yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at fenywod. Roedd Mr Sargeant wedi gwadu'r honiadau.

Rai dyddiau ar ôl ei ddiswyddo cafwyd hyd i gorff Mr Sargeant yn ei gartref ar Lannau Dyfrdwy.

Y gred yw iddo ladd ei hun.

O ganlyniad i her gyfreithiol y teulu, fe gafodd dyddiad gwreiddiol ar gyfer cynnal yr ymchwiliad ei ohirio.

Dywedodd llefarydd ar ran cyfreithwyr y teulu: "Rydym wedi derbyn cadarnhad gan yr Uchel Lys fod caniatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol wedi ei wrthod ac rydym yn trafod y sefyllfa gyda'n cleiant."

Bydd gan y teulu saith diwrnod i ofyn i'r barnwr ailystyried ei benderfyniad.