Joe Ledley wedi derbyn llawdriniaeth ar ei glun

  • Cyhoeddwyd
Joe LedleyFfynhonnell y llun, Getty Images

Gallai chwaraewr canol cae Cymru, Joe Ledley, fethu gêm olaf Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar ôl derbyn llawdriniaeth ar ei glun.

Golygai'r anaf fod Ledley, sydd bellach yn chwarae i Derby County yn y Bencampwriaeth, yn debygol o fod allan am o leiaf deufis.

Bydd Cymru yn herio Denmarc ar 16 Tachwedd, cyn teithio i Albania ar gyfer gêm gyfeillgar pedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Nid yw Ledley wedi chwarae i'w glwb ers 25 Awst, a'r tro diwethaf iddo chwarae i'r tîm rhyngwladol oedd yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Mexico ym mis Mai.

Fe gadarnhaodd fod y llawdriniaeth yn llwyddiannus ar wefan cymdeithasol.