Merch awtistig o Abertawe yn 'rhy beryglus' i fyw adre
- Cyhoeddwyd
Cafodd Claire Dyer ei chymryd i ofal yr awdurdodau yn 2014 a'i gyrru i ysbyty diogel yn Brighton.
Bellach mae hi'n 24 oed yn yn ôl adre gyda'i theulu yn Abertawe gan nad oes llety addas arall ar gael iddi.
Mae hi'n un o 34,000 o bobl yng Nghymru sydd ag awtistiaeth, ac mae nifer wedi "disgyn i fylchau" mewn gofal gan adael teuluoedd yn brwydro i ymdopi.
Wrth geisio mynd i'r afael â'r mater mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gwasanaeth newydd ar draws Cymru gyfan.
Ond mae rhieni wedi galw am gael mwy o ddweud wrth ddyfeisio cynlluniau gofal i'w plant.
Dywedodd mam Claire, Cath Dyer: "Mae'n chwerthinllyd. Yn 2014 doedd hi ddim yn cael byw gyda ni, roedden nhw'n dweud ei bod hi'n rhy beryglus.
"Ond nawr mae hi yma drwy'r amser."
Dechreuodd ei brwydr bedair blynedd yn ôl. Oherwydd "ymddygiad heriol" Claire, roedd ei gofalwyr am ei symud o Abertawe i'r uned addas agosaf.
Roedd swyddogion y bwrdd iechyd lleol yn dweud ei bod yn ymddwyn yn dreisgar, gan fygwth lladd aelodau o staff a defnyddio peipen fel arf.
Roedd y teulu'n gwadu hyn, ond cafodd ei symud i uned 230 o filltiroedd i ffwrdd yn Brighton yn Awst 2014.
'Dim llawer o hoe'
Yn dilyn ymgyrch, fe gafodd Claire fynd adre dri mis yn ddiweddarach gyda gweithwyr gofal yn cefnogi ei rieni drwy fynd â hi am dro yn ddyddiol.
Ond daeth y ddarpariaeth yna i ben yn Ebrill eleni yn dilyn "digwyddiad", ac mae hi bellach adre drwy'r amser.
Dywedodd ei mam, Cath Dyer: "Does dim llawer o hoe i gael, ond mae'n bwysicach i ni ein bod ni'n gwneud pethau'n iawn.
"Roedd hi'n cael ei chloi mewn ystafell yn Brighton, ac yn llefain y glaw... mae Claire mewn lle llawer gwell nawr.
"Weithiau mae'n mynd yn upset, ond y gôl yw ei chael hi mewn llety da gyda chefnogaeth lle bydd hi'n hapus a saff cyn ein bod ni'n rhy hen i frwydro drosti."
Mae oddeutu 34,000 o bobl yng Nghymru gydag awtistiaeth, ac o ystyried rhieni a gofalwyr mae hynny'n effeithio ar 136,000 o bobl.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwasanaeth cyflawn i awtistiaeth yng Nghymru, ac yn ceisio canfod y ffordd orau o fod o gymorth i deuluoedd.
Tra bod pobl gydag anableddau neu broblemau iechyd meddwl yn derbyn prif weithiwr a rheolwr gofal, nod y cynllun yw llenwi'r bylchau a darparu rhywbeth tebyg i bobl ag awtistiaeth.
Dywedodd arweinydd y prosiect, Wendy Thomas: "Gan fod y gwasanaeth yn un newydd, mae'n anodd mesur yr effaith tymor hir, ond mae gennym eisoes bentwr o achosion lle mae'r gwasanaethau wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd16 Awst 2018