Gwesty uchel yng Nghaerdydd yn methu prawf cladin

  • Cyhoeddwyd
diffoddwyr

Mae gwesty uchel yng Nghaerdydd wedi methu prawf diogelwch cladin gafodd ei gyflwyno yn dilyn trasiedi Tŵr Grenfell.

Mae adroddiad i Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn dweud fod y gwesty a bloc o fflatiau yn y brifddinas wedi methu â chyrraedd "gofynion hylosgedd (combustibility)".

Hyd yma felly mae 12 o adeiladau ar draws de Cymru wedi methu'r profion.

Doedd yr awdurdod ddim yn fodlon datgelu pa westy oedd dan sylw, ond dywedodd fod y cladin yn cael ei dynnu oddi arno.

Dywedodd Cyngor Caerdydd nad oedden nhw wedi cael gwybod am fethiannau'r cladin yn yr un o'r ddau safle.

Dechreuodd y profion gael eu cynnal wedi i 71 o bobl farw mewn tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain ym mis Mehefin y llynedd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau yn y gorffennol fod cladin ar fflatiau ym Mae Caerdydd wedi methu profion tân

Erbyn mis Ionawr eleni, mae swyddogion tân wedi cynnal profion ar 206 o adeiladau sy'n chwe llawr neu fwy yn ne Cymru.

Mae'r rheiny'n cynnwys fflatiau preifat neu gymdeithasol, gwestai a llety myfyrwyr.

Mae'r staff hefyd wedi bod yn ymweld â blociau fflatiau uchel er mwyn gwirio argaeledd dŵr pe byddai tân yn digwydd yno, gan ddweud fod rhai "angen gwaith".

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud y bydd diffoddwyr yn cael hyfforddiant ychwanegol i ddelio gyda thanau mewn adeiladau uchel, ac y bydd yr hyfforddiant yn digwydd ar safle hyfforddi yng nghanolbarth Lloegr.

Disgrifiad o’r llun,

Prospect Place ym Mae Caerdydd oedd y datblygiad preifat cyntaf yng Nghymru i fethu'r profion

Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud fod swyddogion yn cydweithio â pherchnogion y gwesty dan sylw yng Nghaerdydd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi sefydlu tîm diogelwch adeiladau uchel er mwyn paratoi am unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio i adnabod adeiladau lle mae cynnyrch ACM (aluminium composite material) yn rhan o'r system gladin.

"Hyd yma mae 12 adeilad yn y sector preifat a thri yn y sector cymdeithasol wedi cael eu hadnabod i fod â systemau sy'n cyd-fynd â rhai sydd wedi methu profion hylosgedd.

"Rydym hefyd wedi cael gwybod bod gwesty uchel yng Nghaerdydd gyda system ACM, ac sy'n ymddangos i ymdebygu i system a fethodd brofion mawr."