Gwobr ysbrydoliaeth i'r 'mytholegol' Meic Stevens
- Cyhoeddwyd
Meic Stevens fydd enillydd cyntaf gwobr sy'n cael ei chynnig am y tro cyntaf eleni fel rhan o seremoni flynyddol y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.
Bydd yn derbyn y Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig fel cydnabyddiaeth o'i gyfraniad i'r maes yn ystod gyrfa sy'n ymestyn yn ôl i'r 1960au.
Dywedodd y cyflwynydd radio Huw Stephens - un o sylfaenwyr y gwobrau - fod y canwr o Solfach "wedi creu gymaint o gynnwrf dros y blynyddoedd, mae bron 'di troi yn ffigwr mytholegol".
Mae'r seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yng ngwesty'r Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd ar 7 Tachwedd.
Mae'r canwr - sy'n cael ei ddisgrifio gan rai fel y Bob Dylan Cymreig - wedi cyhoeddi 27 albwm, gan gynnwys Outlander i label Warner Brothers yn y 60au.
Toreithiog a lliwgar
Dywed y trefnwyr y bydd y wobr ysbrydoliaeth yn nodi ei "gyfraniad aruthrol i gerddoriaeth Gymreig" a bod y canwr 76 oed "yn dal i ysbrydoli miloedd drwy ei berfformiadau a'u recordiau".
Dywedodd Huw Stephens: "Mae Meic wedi rhyddhau gymaint o albyms a 'di bod yn gymaint o unigolyn ar y sin. Mae pobol di-Gymraeg yn mwynhau ac yn caru ei gerddoriaeth e.
"Mae 'di bod mor doreithiog... y mwyafrif yn Gymraeg, a ni'n lwcus bod hi 'di ca'l e. Mae e 'di gweithio'n galed.... mae e wastad yn siarad dros gerddorion, ma'n gymeriad lliwgar.
Ychwanegodd bod ei gasgliad helaeth o ganeuon yn "rhan o'n hanes ni" a bod y trefnwyr yn gobeithio y bydd y wobr ysbrydoliaeth yn cael ei rhoi yn flynyddol o hyn ymlaen.
Dywedodd Huw Stevens mai'r gantores Cerys Matthews yn wreiddiol oedd wedi awgrymu gwobrwyo Meic Stevens. ac wrth groesawu'r cyhoeddiad dywedodd hithau ei fod yn gyfansoddwr caneuon heb ei ail yn y ddwy iaith,
"Mae wedi dilyn ei lwybr ei hun, mae'n sgrifennu caneuon protest grymus a phrydferth, a chaneuon serch sy'n llorio," meddai. "Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth gyson i gymaint ohonon ni ac wedi bod yn allweddol o ran llunio'r sîn gerddoriaeth Gymreig heddiw."
Albym newydd gorau'r flwyddyn
Mae'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn cael ei chynnal am yr wythfed tro eleni.
Nod yr achlysur yw dathlu amrywiaeth cerddoriaeth newydd gan artistiaid a grwpiau o Gymru, ac mae'r enillydd yn cael ei ddewis gan banel o arbenigwyr o fewn y diwydiant.
Dyma'r 12 albwm sydd ar restr fer 2018:
Alex Dingley - Beat the Babble
Astroid Boys - Broke
Boy Azooga - 1,2, Kung Fu
Bryde - Like an Island
Eugene Capper & Rhodri Brooks - Pontvane
Catrin Finch & Seckou Keita - SOAR
Gwenno - Le Kov
Gruff Rhys - Babelsberg
Manic Street Preachers - Resistance Is Futile
MELLT - Mae'n Hawdd Pan Ti'n Ifanc
Seazoo - Trunks
Toby Hay - The Longest Day
The Gentle Good oedd enillydd y wobr y llynedd am yr albwm Ruins/Adfeilion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2018