'Angen mwy o leoliadau preswyl arbenigol i blant Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae mam sydd â phlentyn mewn cartref diogel i blant, cannoedd o filltiroedd i ffwrdd yn Lloegr, wedi disgrifio'i sefyllfa fel "hunllef ddiddiwedd".
Cafodd ei merch ei gosod yno er ei lles ei hun gan ei hawdurdod lleol yn dilyn gorchymyn llys teuluol.
Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru, mae angen lleoliadau gofal preswyl arbenigol i blant sydd â phroblemau cymhleth ar fyrder.
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio i ddatblygu ffyrdd newydd o gynnig gofal therapiwtig i blant sydd ag anghenion cymhleth iawn ac ymddygiad heriol.
'Sefyllfa ofnadwy'
Roedd y ferch yn ei harddegau wedi bod yn yfed a hunan-niweidio ac yn ôl y cyngor, roedd hi mewn perygl o gael ei cham-drin yn rhywiol.
Does dim modd enwi'r fam, ond wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd bod penderfyniad y cyngor i osod ei merch mewn llety diogel yn "frawychus".
"Doedd dim gwelyau ar gael trwy Brydain ar ddechrau'r achos llys, ond daethon nhw o hyd i le yn ystod ein gwrandawiad."
Yn y pendraw, mi gafod y ferch ei symud i gartref diogel i blant 250 o filltiroedd i ffwrdd.
"Roedd y sefyllfa'n ofnadwy. Doedd hi ddim yn ymdopi o gwbwl. Dyw hi ddim yn hoffi bod i ffwrdd o'i chartref."
Ychwanegodd nad oedd awyrgylch cartref diogel i blant yn addas ar ei chyfer.
"Mae'n garchar plant mwy neu lai? Mae sôn am wahardd pethau, mae dulliau rheoli ymddygiad yn cael eu defnyddio - mae'r derminoleg yn ddigon i godi braw ar rywun."
'Testun pryder'
Mae 15 o gartrefi diogel i blant yng Nghymru a Lloegr.
Dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru, cafodd 18 o blant eu gosod mewn sefydliadau o'r fath yn sgil gorchymyn llys teuluol.
Cafodd 10 o'r rheiny eu rhoi mewn cartrefi yn Lloegr.
Awdurdodau lleol sy'n rheoli'r cartrefi ar gyfer plant dros 10 oed. Mae'r cartrefi ar gyfer plant sydd naill ai wedi eu cyhuddo o droseddau difrifol neu'n cael eu rhoi yno er ei lles ei hunain ac eraill.
Dywedodd y fam, bod e'n "destun pryder mawr" iddi fod ei merch yn yr un lle ag unigolion oedd wedi eu cyhuddo o droseddau difrifol.
"Mae hi'n ferch fregus a gallai hi gael ei dylanwadu'n hawdd gan y plant eraill fyddai wedi gallu lladd neu anafu rhywun - does dim ffordd o wybod - a does dim modd iddyn nhw rannu'r wybodaeth yma gyda fi.
"Felly dwi ddim yn gwybod pwy mae'n cymysgu gyda na pha ddylanwad maen nhw'n cael arni," ychwanegodd.
"Dwi ddim yn credu fod hi'n briodol bo' nhw'n cymysgu gyda'i gilydd. Dwi ddim yn gweld sut allai'r drefn yma fod o fudd iddi. Yr unig beth sydd ar ei meddwl yw sut i adael y lle.
"Dydy hi ddim yn cydweithio achos eu bod hi eisiau gwella, mae'n cydweithio gan ei bod eisiau gadael y lle mor fuan â phosib."
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, wrth BBC Cymru bod y ddarpariaeth bresennol yn ddiffygiol.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu gofal preswyl arbenigol ar gyfer nifer fach o blant sydd â gofynion uchel o ran gofal emosiynol a gofal iechyd meddwl," meddai.
"Mae angen i ni orffen edrych ar y sefyllfa fel rhywbeth yn ymwneud â gofal iechyd meddwl neu ofal cymdeithasol.
"Mae angen edrych ar sut mae'r gwasanaethau arbenigol, ar y cyd, yn darparu'r gofal mwyaf addas i blant, sydd ymhlith y rhai mwyaf bregus yng Nghymru," meddai.
Ychwanegodd nad oedd anghenion y cnewyllyn bach yma o blant yn cael digon o sylw a'i bod hi wedi codi'r mater gyda Llywodraeth Cymru yn gyson.
Dywedodd y fam ei bod hi'n poeni am effaith y sefyllfa ar ei phlentyn.
"Dy'n ni ddim yn cadw mewn cysylltiad yn ddigon aml, mae'n anodd i mi ymweld â hi gan fod gen i blant arall gartref.
"Rwy'n poeni am effaith hyn ar ei hiechyd emosiynol a'i iechyd meddwl a sut mae'n mynd i ymdopi yn y dyfodol.
"Does dim modd bwrw ymlaen gyda'n bywydau ni ar hyn o bryd, mae'n hunllef ddiddiwedd."
Datblygu ffyrdd newydd
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu ffyrdd newydd o gynnig gofal therapiwtig i blant sydd ag anghenion cymhleth iawn ac ymddygiad heriol.
"Mae'r rhain yn cynnwys lleoliadau preswyl arbenigol ar gyfer plant sydd mewn perygl o fynd i lety diogel, a darpariaeth i'r rhai sy'n gadael llety diogel."
Ychwanegodd bod grŵp sy'n edrych ar ofal preswyl i blant, yn ystyried y ffordd orau o gynyddu darpariaeth ar frys a bod cynrychiolydd o swyddfa'r Comisiynydd Plant yn rhan o'r grŵp.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2016
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2015