Ambiwlansys 'yn cyrraedd y cleifion mwyaf sâl gyntaf'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru ar y cyfan yn cyrraedd y cleifion mwyaf sâl gyntaf a ddim yn eu peryglu nhw, yn ôl adolygiad newydd.
Fe wnaeth adolygiad i'r gwasanaeth dros y ddwy flynedd diwethaf edrych ar dros 536,000 o alwadau 'oren' - megis cleifion sydd wedi cael strôc neu boenau yn y frest.
Ond dywedodd yr adroddiad bod rhai cleifion yn parhau i wynebu oedi "annerbyniol", a bod angen gwelliannau.
Daw hynny dair blynedd wedi i system newydd gael ei gyflwyno yng Nghymru fel rhan o newidiadau mawr i'r gwasanaeth ymateb brys.
'Mwy i'w wneud'
Mae galwadau i'r gwasanaeth ambiwlans bellach yn cael eu rhannu i gategorïau coch, oren neu felyn, yn dibynnu ar ba mor ddifrifol ydyn nhw.
Coch yw'r achosion mwyaf difrifol, tra bod oren - y rhai mwyaf cyffredin - yn achosion ble nad oes bygythiad brys i fywyd.
Penderfynwyd cynnal yr adolygiad yn dilyn oedi hir am ambiwlansys yn ystod cyfnodau prysuraf y gaeaf diwethaf.
Dywedodd y Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans, Stephen Harrhy fod y gwasanaeth yn gweld "cynnydd sylweddol" mewn galwadau flwyddyn ar ôl blwyddyn.
"Dwi'n hyderus o'r adolygiad yma fodd bynnag nad yw'r rhan fwyaf o achosion cleifion yn cael eu heffeithio gan amser ymateb yr ambiwlans yn unig," meddai.
"Dyw hyn ddim yn golygu fod rhai cleifion heb gael profiadau negyddol, a dwi'n benderfynol o leihau hyn."
Mewn un achos ym mis Rhagfyr llynedd cafodd arhosiad o 54 awr ei gofnodi yn y gogledd - ond roedd y claf eisoes yn yr ysbyty, ac yn aros i gael trosglwyddiad i uned arbenigol.
Mae'r Ceidwadwyr wedi disgrifio rhai o'r achosion o aros fel rhai "echrydus".
Mewn ymateb dywedodd Mr Harrhy ar y pryd fod y system newydd wedi "trawsnewid y ffordd rydyn ni'n darparu gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru".
Ond fe wnaeth hefyd gydnabod bod "rhagor o waith i'w wneud" a bod angen parhau i adolygu er mwyn gweld a oedd y system yn gweithio i gleifion a staff.
Bu'n rhaid i John Hughes o Bwllheli aros dros saith awr am ambiwlans i ddod a'i gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei daro'n wael ag ymlediad fis diwethaf.
Fe wnaeth ei deulu wneud sawl galwad i'r gwasanaethau brys, gan ddweud bod Mr Hughes yn rhy sâl i allu symud er mwyn iddyn nhw allu ei gludo i'r ysbyty eu hunain.
Maen nhw'n dweud na chafodd eu galwadau eu categoreiddio yn gywir, a hynny wedi i'r parafeddygon ddaeth atyn nhw yn y diwedd ddweud eu bod nhw wedi bod tua 500 llath i ffwrdd adeg yr alwad gyntaf.
Yn hytrach na mynd at Mr Hughes yn syth, fe gawson nhw eu hanfon i Ddolgellau, a dim ond dychwelyd i Bwllheli am 04:30, saith awr a hanner wedi'r alwad wreiddiol.
Mae mab Mr Hughes, Martin wedi dweud fod ei dad yn "lwcus" i fod yn fyw, a bod "rhywbeth angen newid".
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans na fyddan nhw'n gwneud sylw ar yr achos tra bod ymchwiliad ar y gweill, ond eu bod yn dymuno gwellhad buan i Mr Hughes.
'Stopio'r cloc'
Ym mis Medi eleni cafodd dros 25,000 o alwadau brys eu gwneud i'r gwasanaeth ambiwlans, ac fe gafodd 85% o'r rheiny eu rhoi yn y categori oren.
Mae'r amser canolrif ar gyfer ymateb i'r galwadau hynny wedi amrywio'n sylweddol - o 16 munud a 55 eiliad ym mis Hydref 2017, i 34 munud a 41 eiliad ym mis Chwefror eleni pan oedd pwysau'r gaeaf ar ei fwyaf.
Roedd yr amser a gymerodd hi i ateb galwadau oren ar gyfartaledd hefyd yn uwch na'r flwyddyn gynt, wrth i'r GIG geisio delio gyda beth oedd yn cael ei alw'n eu gaeaf prysuraf erioed.
Dywedodd Dr Brendan Lloyd, Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, fod tystiolaeth fod ambiwlansys bellach yn cludo cleifion strôc a thrawiadau categori oren i'r ysbyty yn gynt.
O dan yr hen system, meddai, "bydden ni'n anfon unrhyw beth jyst er mwyn stopio'r cloc".
Dywedodd fod achosion mwy brys a difrifol hefyd yn cael eu rhoi mewn categori 'oren un' yn fewnol.
"Er ein bod ni wedi cael gaeaf caled, roedden ni wedi gallu cynnal gwellhad yn y perfformiad yn y meysydd hynny o'i gymharu â'r hen fodel," meddai.
Wrth groesawu'r adroddiad ychwanegodd Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens fod yr adolygiad wedi canfod nad oedd problem gyda'r system bresennol.
"Fodd bynnag, rydym yn cydnabod fod angen gwneud mwy i sicrhau bod gennym ni ddigon o adnoddau i ateb gofynion a disgwyliadau ein cleifion, gyda rhai ohonyn nhw'n aros yn hirach nag y bydden ni'n ei hoffi," meddai.
Mewn ymateb i'r adolygiad dywedodd Plaid Cymru y dylai targed gael ei osod i'r gwasanaeth ambiwlans ar gyfer cyrraedd cleifion sydd wedi cael strôc.
Ychwanegodd llefarydd y blaid ar iechyd, Helen Mary Jones ei bod hi'n "siomedig" nad oedd mwy o bwyslais ar gyflyrau o'r fath sydd angen ymateb brys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2018