Gwobrau Cerddoriaeth Gymreig i Meic Stevens a Boy Azooga

  • Cyhoeddwyd
Meic Stevens
Disgrifiad o’r llun,

Fe berfformiodd Meic Stevens yn ystod y noson wobrwyo

Mae Meic Stevens wedi derbyn gwobr nos Fercher fel cydnabyddiaeth o'i gyfraniad i'r maes cerddoriaeth yng Nghymru.

Y canwr o Solfach yw'r artist cyntaf i dderbyn y Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig fel rhan o seremoni flynyddol y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.

Ond yn y seremoni, roedd yn feirniadol o'r sîn roc yng Nghymru, gan ddweud ei fod yn "jôc".

Boy Azooga wnaeth ennill prif wobr y noson am 1,2, Kung Fu - albwm cyntaf y grŵp o Gaerdydd.

Cafodd y seremoni ei chynnal am yr wythfed tro eleni.

Ffynhonnell y llun, Stella Gelardi Malfilatre
Disgrifiad o’r llun,

1,2, Kung Fu yw albwm cyntaf Boy Azooga

Y sîn yn 'jôc'

Yn siarad yn y seremoni, gofynnwyd i Meic Stevens am ei farn ar y sîn yng Nghymru ar hyn o bryd.

Atebodd: "Pa sîn? 'Sdim sîn roc yng Nghymru, ddim yn yr iaith Gymraeg anyway, mae wedi mynd lawr...

"Dwi ddim isie siarad ambwyti fe achos fydd bobl yn meddwl 'Mae Meic Stevens yn ddyn sur' a dwi ddim yn ddyn sur, ond dwi'n meddwl bod y rock scene Cymraeg yn jôc mawr, mae yn i fi anyway."

Roedd hefyd yn feirniadol nad yw bandiau o Gymru'n cael eu chwarae ddigon ar orsafoedd radio cenedlaethol.

Er hynny, roedd rhai yn amddiffyn cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig, gan gynnwys y DJ Rhys Mwyn, a ddywedodd bod y sîn yn "ofnadwy o iach".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Rhys Mwyn

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Rhys Mwyn

Nod yr achlysur yw dathlu amrywiaeth cerddoriaeth newydd gan artistiaid a grwpiau o Gymru.

Cafodd yr enillydd ei ddewis gan banel o arbenigwyr o fewn y diwydiant.

Cafodd enw'r albwm buddugol ei gyhoeddi gan y cyflwynydd Huw Stephens - un o sylfaenwyr y gwobrau - yn y seremoni yng ngwesty'r Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd.

Wrth dderbyn y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, dywedodd sylfaenydd Boy Azooga, Davey Newington fod y gydnabyddiaeth yn "anrhydedd go iawn" o ystyried yr holl artistiaid "rhyfeddol" eraill ar y rhestr fer.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y penderfyniad i wobrwyo Meic Stevens yn un 'hawdd' yn ôl un o sylfaenwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Huw Stephens

Y 11 albwm arall ar restr fer 2018 oedd:

  • Alex Dingley - Beat the Babble

  • Astroid Boys - Broke

  • Bryde - Like an Island

  • Eugene Capper & Rhodri Brooks - Pontvane

  • Catrin Finch & Seckou Keita - SOAR

  • Gwenno - Le Kov

  • Gruff Rhys - Babelsberg

  • Manic Street Preachers - Resistance Is Futile

  • MELLT - Mae'n Hawdd Pan Ti'n Ifanc

  • Seazoo - Trunks

  • Toby Hay - The Longest Day

Ffynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Cloriau'r 12 albwm ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2018