Rhybudd am 'brinder difrifol' cyfreithwyr ar ddyletswydd

  • Cyhoeddwyd
CPS

Gall prinder difrifol o gyfreithwyr newydd arwain at weld mwy o bobl ddiniwed yn cael eu dyfarnu'n euog, yn ôl Cymdeithas y Gyfraith.

Daw hynny yn sgil rhybuddion bod y penderfyniad i rewi codiadau cyflog i gyfreithwyr ar ddyletswydd yn 1998 wedi ei gwneud yn yrfa anneniadol.

Gallai hynny, medden nhw, arwain at fwy o bobl yn gorfod cynrychioli eu hunain mewn llysoedd.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod am barhau i sicrhau bod digon o gyfreithwyr ar gael.

Gwasanaeth sy'n 'gwegian'

Mae bron i hanner y cyfreithwyr ar ddyletswydd yn Lloegr a Chymru dros eu 50, gyda'r ffigwr yna'n cyrraedd bron i 66% mewn ardaloedd gwledig.

Dywedodd Richard Miller, pennaeth cyfiawnder Cymdeithas y Gyfraith, bod y system yn "gwegian dan bwysau".

"Rydym yn agosáu at bwynt lle nad oes yna gyfreithwyr troseddol ar ddyletswydd mewn rhai ardaloedd... ac os nad oes gennych gyfreithwyr, yna does yna ddim achos teg," meddai.

"Bydd rhai yn gorfod mynd i'r llys i gynrychioli eu hunain. Gallen nhw fod yn croesholi tystion neu hyd yn oed y dioddefwr, sy'n wirioneddol anghredadwy.

"Y senario waethaf yw y gallai pobl ddiniwed gael eu hystyried yn euog am eu bod yn erbyn erlynydd mwy profiadol a does neb yno i'w hamddiffyn yn iawn."

Ffynhonnell y llun, Richard Miller
Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Miller yn dweud bod y system yn gwegian

Honnodd un cyfreithiwr, sydd am aros yn ddienw, bod rhai unigolion eisoes yn cael eu holi gan yr heddlu heb gynrychiolaeth - er bod gan bawb hawl i gyngor cyfreithiol am ddim.

"Mae pobl wedi cael eu harestio ac am eu bod wedi gorfod aros cyhyd am gyfreithiwr - am nad oedd yna neb ar gael - maen nhw'n cael eu holi heb gynrychiolaeth ta beth, er eu bod wedi gofyn amdano.

"Mae hyn yn digwydd nawr, ac mi fydd yn digwydd yn amlach ac amlach o nawr ymlaen."

Dim ond 11% o'r cyfreithwyr ar ddyletswydd yn Lloegr a Chymru sydd dan 35 oed.

Canolbarth a gorllewin Cymru sydd ymhlith yr ardaloedd sy'n cael eu heffeithio waethaf, gyda dim ond un cyfreithiwr ar ddyletswydd dan 35 oed.

Yng Ngheredigion, mae yna bum cyfreithiwr ar ddyletswydd, ac mae tri ohonynt dros 60 oed.

Yn ôl cyfreithiwr ar ddyletswydd ieuengaf yn sir Benfro, Katy Hanson, sy'n 40 oed ac yn rheolwr gyfarwyddwr cwmni cyfreithiol, mae hi wedi gorfod cadw aelod o staff oedd yn awyddus i ymddeol.

"Dwi'n gwybod bod cwmnïau hefyd yn rhoi'r gorau i'r math yma o waith - mae yna o leiaf tri chwmni yn Sir Benfro sydd ddim yn edrych ar droseddau o'r fath erbyn hyn."

Anodd cadw staff

Nid yw cyfreithwyr ar ddyletswydd wedi gweld cynnydd yn eu cyflog ers 1998, ac fe dorrwyd eu cyflog o 8.75% gan Lywodraeth y DU yn 2014.

Yn ôl Michael Strain, sy'n rhedeg cwmni cyfreithiol yng ngogledd Cymru: "Rydych yn derbyn cyfradd safonol am eich gwaith. Yng ngorsaf heddlu Caernarfon, mae'n £172 y swydd.

"Mi allwn gael achos gyda bachgen 13 oed yn torri ffenest a bod yno am gwta ddwy awr, neu mi allwn fod yno am dridiau gyda rhywun sydd wedi ei gyhuddo o dreisio rhywun.

"Yr un tâl dwi'n ei dderbyn am y ddau achos."

Ffynhonnell y llun, Getty Images/Katy Hanson
Disgrifiad o’r llun,

Katy Hanson, 40, yw'r cyfreithiwr ar ddyletswydd ieuengaf yn Sir Benfro

Dywedodd Michael Grey, sy'n 46 oed ac yn gweithio yng Nghaer, bod y proffesiwn yn gyffredinol yn ei chael hi'n anodd cadw staff.

"Nid yn unig dyw pobl ddim yn ymgymryd â'r gwaith, ond rydym yn colli'r bobl sydd gennym yn barod," meddai.

"Mae toriadau'r llywodraeth wedi bod yn ddidrugaredd. Mae lefelau ffioedd yn gostwng i fan lle nad yw'n gweithio.

"Mae'n llanast, yn llanast llwyr, ac mae'n prysur droi'n drychineb."

Mae cwmnïau eraill yn hyfforddi heddweision sydd wedi ymddeol i fod yn gyfreithwyr ar ddyletswydd.

Ddim yn ddewis 'deniadol'

Yn ôl Dr Daniel Newman, darlithydd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, nid yw cymorth cyfreithiol yn "ddewis gyrfa ddeniadol" i nifer o fyfyrwyr.

"Mae'r ddyled fydd gan fyfyrwyr ar ôl astudio yn golygu eu bod yn aml yn deisyfu gweithio mewn meysydd sy'n gwneud mwy o elw," meddai.

"Y gwir amdani yw nad yw gwaith cyfraith droseddol yn Lloegr a Chymru yn cael ei ariannu'n ddigonol, ac o ganlyniad mae'n troi pobl, ac eithrio'r rhai sydd wedi gwir ymrwymo, i ffwrdd."

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod cyfreithwyr yn cyflawni "rôl angenrheidiol" yn y system gyfiawnder troseddol a bod y weinyddiaeth yn "wir gwerthfawrogi eu gwaith gwerthfawr".

Ychwanegodd: "Mae gennym ddigon o gyfreithwyr i ymgymryd ag achosion troseddol ac fe fyddwn yn sicrhau ein bod yn parhau i wneud hynny.

"Rydym yn cyfarfod gyda gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith ac mi fyddwn yn parhau i drafod gyda nhw am sut orau i sicrhau system gyfiawnder cynaliadwy."