Marwolaeth Llanbedrog: 'Gwn wedi'i drin â difaterwch'
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod dyn 18 oed wedi cael ei saethu'n farw ym Mhen Llŷn wedi i'r rheolau ar drin gynnau yn ofalus gael eu trin â "difaterwch".
Clywodd Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun na ddylai'r gwn a laddodd Peter Colwell mewn Land Rover yn Llanbedrog fod wedi bod yn y cerbyd o gwbl.
Fe wnaeth yr erlyniad gydnabod bod "dim byd bwriadol na maleisus" am y farwolaeth ym maes parcio tafarn Y Llong ym mis Chwefror y llynedd.
Mae dau ddyn - Ben Wilson, 29, a Ben Fitzsimmons, 23 - yn gwadu dynladdiad trwy esgeulustod.
Mae dau arall - Michael Fitzsimmons, 25, a Harry Butler, 23, ynghyd â Ben Fitzsimmons - yn gwadu bod â gwn wedi'i lwytho yn eu meddiant mewn man cyhoeddus.
Mae Mr Wilson, yn wreiddiol o Gaergrawnt, eisoes wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad hwnnw.
Clywodd y rheithgor bod Mr Colwell yn eistedd yn sedd gefn y Land Rover Discovery pan gafodd ei saethu.
Roedd wedi bod ar noson allan gyda phedwar dyn ifanc arall, a dywedwyd bod tri o'r rheiny yn defnyddio gynnau ar gyfer eu gwaith a bod ganddynt drwyddedau ar eu cyfer.
'Wyth neu naw peint'
Doedd Mr Wilson, perchennog y gwn a'r Land Rover, ddim yn y cerbyd pan gafodd Mr Colwell ei saethu, ond mae'r erlyniad yn mynnu nad oedd y gwn yn cael ei gario mewn modd diogel.
Mae unrhyw ddryll i fod i gael ei gadw yng nghefn y cerbyd, heb fwledi ynddo, a gyda gorchudd drosto.
Ond clywodd y rheithgor bod y gwn ar y noson honno wedi cael ei gadw yn y sedd flaen, yn pwyntio tuag at y sedd gefn.
Roedd Ben Fitzsimmons, o Bwllheli, yn eistedd yn sedd flaen y Land Rover pan gafodd Mr Colwell ei saethu.
Clywodd y llys bod y pum dyn wedi yfed tua wyth neu naw peint o gwrw neu seidr, a bod Mr Fitzsimmons mor feddw nad yw'n siŵr sut gafodd y gwn ei saethu.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd23 Mai 2018