'Sawl' ymchwiliad i arweinydd UKIP Gareth Bennett

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bennett

Mae arweinydd newydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, Gareth Bennett, wedi honni fod y comisiynydd safonau yn ymchwilio iddo ar "sawl mater".

Mae'n debyg bod Syr Roderick Evans yn ymchwilio i dros £9,000 o arian cyhoeddus gafodd ei wario ar swyddfa ym Mhontypridd sydd ddim wedi agor.

"Os yw e eisiau gwastraffu ei amser yn ymchwilio i mi fe gaiff e gario ymlaen," meddai Mr Bennett wrth BBC Cymru.

Fe wnaeth llefarydd ar ran y Cynulliad wrthod gwneud sylw.

'Gwastraff amser'

Ddydd Gwener daeth y cyhoeddiad fod Mr Bennett wedi trechu'r cyn-arweinwyr Caroline Jones a Neil Hamilton i ddod yn arweinydd ar y grŵp o bump AC UKIP yn y Senedd.

Ym mis Gorffennaf fe wnaeth BBC Cymru adrodd fod Syr Roderick yn cynnal ymchwiliad i fethiant AC Canol De Cymru i agor swyddfa etholaeth.

Dechreuodd yr ymchwiliad wedi i'r mater gael ei gyfeirio i'r comisiynydd safonau gan brif weithredwr y Cynulliad, Manon Antoniazzi.

Mae wedi cymryd sbel yn ymchwilio hynny," meddai Mr Bennett, sydd hefyd yn cynrychioli UKIP ar bwyllgor safonau'r Cynulliad.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Bennett wedi bwriadu agor swyddfa yn yr adeilad hwn ym Mhontypridd

Dywedodd wrth BBC Cymru nad oedd wedi gwneud unrhyw beth o'i le ynghylch y swyddfa etholaeth.

"Mae'r gwarchodwr safonau wedi bod yn ymchwilio i mi ar sawl mater, dros gyfnod hir o amser," meddai.

"Dwi wedi gweld y gwarchodwr safonau mwy o weithiau nag unrhyw Aelod Cynulliad arall siŵr o fod, oni bai am un o bosib.

"Os yw e eisiau gwastraffu ei amser yn ymchwilio i mi fe gaiff e gario ymlaen i ymchwilio."

Dim sylw

Ychwanegodd Mr Bennett: "Dyw e ddim yn mynd i fynd i unrhyw le gyda'r peth, ac fe fydd e'n gwastraffu mwy o amser ac arian y cyhoedd na faint o arian ac amser mae'n honni mod i wedi gwastraffu yn gwneud y pethau mae e'n ymchwilio i mi yn eu cylch."

Gwrthododd llefarydd ar ran y Cynulliad â chadarnhau a oedd ymchwiliadau'n cael eu cynnal i Mr Bennett ar sawl mater.

Mr Bennett yw cynrychiolydd UKIP ar y pwyllgor safonau, ond petai cwyn yn ei erbyn yn cael ei ystyried, byddai ei gyd-AC Michelle Brown yn cymryd ei le arno.