Angen 'safon iechyd cyffredin' ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu

  • Cyhoeddwyd
Paul Ridd
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Paul Ridd (canol) yn 2009

Mae ymgyrchwyr yn galw am hyfforddiant gorfodol i sicrhau fod pobl gydag anableddau dysgu yn cael eu trin yn gywir mewn ysbytai.

Yn ôl Sefydliad Paul Ridd, sydd wedi'i enwi ar ôl dyn a fu farw yn 2009 yn rhannol o ganlyniad i esgeulustod ysbyty, mae angen 'gofal safonol mewn' ysbytai.

Mae deiseb sy'n cefnogi'r syniad wedi cael 4,300 o lofnodion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod y sefydliad yn rhan o grŵp gweithredol ar welliannau iechyd.

Canllawiau

Fe glywodd cwest i farwolaeth Mr Ridd fod esgeulustod yn ei ofal wedi cyfrannu at ei farwolaeth o achosion naturiol.

Mae oddeutu 75,000 o oedolion yng Nghymru gydag anableddau dysgu, ond dim ond 15,000 sy'n wybodus i'r gwasanaethau cymdeithasol, yn ôl ystadegau gan y llywodraeth.

Mae canllawiau i wella gofal a thriniaeth pobl gydag anableddau dysgu mewn ysbytai wedi bod ar gael ers 2014.

Yr Ombwdsman Gwasanaethau Cymdeithasol sydd wedi argymell y canllawiau mewn adroddiad ar ofal dderbyniodd Mr Ridd.

Disgrifiad o’r llun,

Dydi canllawiau ar sut i fynd ati i drin pobl gydag anableddau dysgu ddim yn cael ei defnyddio ymhob man yn ôl Jayne Nicholls

Mae'r sefydliad sydd wedi'i sefydlu gan deulu Mr Ridd wedi bod yn gweithio gyda byrddau iechyd i gael copi o'r argymhellion ar bob ward ysbyty.

Dywedodd chwaer Mr Ridd, Jayne Nicholls fod yr elusen wedi dod i'r casgliad nad yw'r canllawiau yn cael eu dilyn ymhob man.

'Safon Cyffredin'

"Rydym dal i ddod ar draws pobl sydd ddim yn siŵr beth yw anabledd dysgu," meddai wrth raglen Sunday Politics Wales.

"Rydym yn dod ar draws digwyddiadau yn aml gan rieni a gofalwyr sy'n dweud wrthym nad oes addasiadau rhesymol wedi'u gwneud ar gyfer eu teulu neu'r bobl maen nhw'n gofalu amdanyn nhw.

"Yr unig ffordd i ni osod hyn ar draws Cymru yw cael hyfforddiant gorfodol, er mwyn cyrraedd pawb o borthorion i bobl sy'n gweithio ar y dderbynfa,"

"Rydym angen safon gyffredin ar draws Cymru," meddai.

Mae'r ddeiseb yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru "sicrhau fod gweithwyr iechyd proffesiynol yn derbyn hyfforddiant gorfodol i ddelio gyda'r anghydraddoldeb iechyd sy'n wynebu pobl gydag awtistiaeth ac anableddau dysgu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "rydym wedi bod yn gweithio gyda'r teulu Ridd i ddatblygu canllawiau ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu sydd angen gofal ysbyty dwys

"Mae'r Sefydliad Ridd hefyd yn rhan o grŵp gweithredol i wella iechyd rheiny sydd gydag anableddau dysgu, ac fe fydden nhw'n rhan o ddatblygiad fframwaith addysgiadol ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol," meddai.