Gorsaf am geisio 'efelychu' Radio Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Stiwdio radio

Mae sefydlwyr gorsaf radio gymunedol newydd yn gobeithio efelychu dyddiau da Radio Ceredigion.

Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Radio Ceredigion yn dod i ben, dwedodd rheolwyr Radio Aber y byddai "llais y bobl" wrth wraidd y gwasanaeth.

Fe fydd Radio Aber yn lansio ar donfedd FM yn Aberystwyth flwyddyn nesaf.

Mae perchnogion Radio Ceredigion wedi llwyddo gyda'u cais i gau'r orsaf, ac i ddarlledu Nation Radio ar y tonfeddi FM lleol yn ei lle.

Yn gynharach eleni fe wobrwyodd Ofcom drwydded i Radio Aber, ac mae cynlluniau ar y gweill i'w lansio ar donfedd FM yn yr haf neu'r hydref 2019.

Mae cyfyngiadau ar orsafoedd cymunedol sy'n golygu na allant godi incwm sylweddol o hysbysebion.

Tîm o wirfoddolwyr fydd yn gyfrifol am reoli a darlledu Radio Aber.

'Lleisio barn'

Yn ôl un o'r sefydlwyr, Tom Cartwright, mae'r orsaf newydd yn gobeithio efelychu Radio Ceredigion fel yr oedd hi ar y dechrau.

"Byddwn i'n dweud bod ein hamcanion ni ychydig bach yn wahanol i be ydy Radio Ceredigion, yn sicr be ydyn nhw ar y funud," meddai.

"Ond fyswn i'n licio mynd yn ôl i be oedd Radio Ceredigion ar y dechrau. Bod yn orsaf radio lleol sydd yn gallu rhoi llais i bobl yn yr ardal, ac i bobl allu lleisio barn."

Rhaglenni Cymraeg fydd yn llenwi o leiaf 50% o amserlen Radio Aber.

Tra bod y tîm yn anelu at lansiad ffurfiol flwyddyn nesaf, maen nhw wedi darlledu'n achlysurol ar y we.

Darlledu yn Gymraeg

Dywedodd un o sefydlwyr arall Radio Aber, Sam Thomas, eu bod yn ymateb i'r galw am ragor o raglenni lleol.

"Am flynyddoedd maith doedd yna ddim gwasanaeth lleol ar gyfer Aberystwyth.

"Beth rydyn ni eisiau creu ydy'r math o wasanaeth lle mae pobl yn gallu dweud beth maen nhw eisiau dweud, ac yn gallu clywed lleisiau lleol yn son am bethau lleol.

Tra bod Radio Ceredigion wedi torri nôl ar raglenni a cherddoriaeth Gymraeg yn y blynyddoedd diwethaf, mae Sam Thomas yn dweud bod y Gymraeg yn "bwysig iawn" i Radio Aber.

"Mae 'na nifer o bobl yn yr ardal sy'n siarad Cymraeg, tua hanner y boblogaeth.

"Felly mae'n bwysig iawn i'r gwasanaeth i ddarlledu cymaint o Gymraeg ac ydyn ni'n gallu."

Arweinydd cyngor yn anhapus

Yn y cyfamser, mae arweinydd Cyngor Ceredigon wedi galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymchwilio i ganiatad Ofcom i gau Radio Ceredigon.

Dywedodd Ellen ap Gwynn wrth raglen Taro'r Post Radio Cymru ei bod bod yn "siomedig iawn gyda'r modd y gwnaeth Ofcom ymdrin â'r mater".

"Beth yw pwrpas Ofcom yn Nghymru.... a beth yn union yw ei remit nhw ynglŷn â'r Gymraeg?

"Rhaid i rywun ddechrau ymchwilio i mewn i'r sefyllfa i'r ffordd ma' nhw yn gweithredu."

Dywedodd llefarydd ar Ofcom eu bod yn "gwbl ymroddedig i'r iaith Gymraeg ac yn cydymffurfio â'r set o safonau fel a gytunwyd â Chomisiynydd y Gymraeg".

Ychwanegodd eu bod wedi gorfod rhoi ystyriaeth ofalus iawn i gais Radio Ceredigion Ltd oherwydd "y gwendidau amrywiol".

"Yn ein barn ni, oherwydd yr anawsterau economaidd sylweddol mae trwydded Ceredigion wedi'u hwynebu yn y gorffennol o dan amrywiaeth o wahanol fodelau perchnogaeth, ac oherwydd na wnaeth unrhyw gwmni ac eithrio Radio Ceredigion Ltd gyflwyno cais dilys ar gyfer y drwydded hon, byddai'n well i wrandawyr yn ardal Ceredigion barhau i allu cael dewis o wasanaethau radio masnachol analog lleol."