Tafarn y Cŵps, Aberystwyth i ail-agor yn y flwyddyn newydd

  • Cyhoeddwyd
Tafarn Y Cwps
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tafarn Y Cŵps yn Aberystwyth wedi bod ynghau ers 2017

Mae'r gwaith wedi cychwyn ar adnewyddu un o dafarndai mwyaf eiconig Aberystwyth, sydd wedi bod ynghau ers dros flwyddyn.

Cafodd Tafarn y Cŵps ei chau ym mis Tachwedd 2017 ar ôl i'r rheolwyr diwethaf roi'r gorau i'r brydles.

Ers hynny mae'r adeilad, sydd dros y blynyddoedd wedi bod yn fan cyfarfod i fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth a thrigolion lleol, wedi bod yn segur.

Nawr mae dyn busnes 33 oed o Dalybont yng Ngheredigion yn bwriadu ail-agor y lle yn y flwyddyn newydd, ac ehangu ar y busnes.

"Fe ges i'r allweddi ddechrau mis Rhagfyr," meddai James Fox, sydd wedi cymryd y brydles gan berchnogion yr adeilad, Bragdy Felin-foel.

"Y bwriad ydy ail-agor y lle yn swyddogol ar ddechrau mis Chwefror.

"Rydyn ni'n canolbwyntio ar gael y busnes gwely a brecwast yn ôl ar ei thraed yn fuan, ond maes o law rydyn ni'n gobeithio cynnig prydau bwyd drwy gydol y dydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae perchennog yr adeilad, Bragdy Felinfoel, wedi gwneud cais i ehangu oriau'r busnes

Mae gan y perchennog newydd gynlluniau hefyd i droi rhan gefn y bar yn gaffi gyda phwyntiau gwefru ffonau a chyswllt â'r wê.

Mae'r bragdy hefyd wedi gwneud cais i Gyngor Ceredigion i ehangu oriau busnes yn yr adeilad.

"Os gewn ni'r caniatâd i ehangu'r oriau," meddai Mr Fox, "ein bwriad ydy agor y lle am wyth o'r gloch y bore i gynnig brecwast i bobl sydd un ai'n cerdded i'r dre neu i fyny Rhiw Penglais.

"Dwi wedi fy synnu gyda faint o bobl sydd wedi dweud wrtha i pa mor hapus maen nhw o glywed bod y Cŵps yn ail-agor, a gobeithio bydd yr ewyllys da honno'n parhau pan fydd y drysau'n agor unwaith eto."