Ceidwadwyr yn beirniadu penodiad cynghorydd i'r Llywydd

  • Cyhoeddwyd
Elin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Elin Jones - AC Plaid Cymru dros Geredigion - ei hethol fel Llywydd yn 2016

Mae pryderon wedi eu mynegi ynghylch penodiad ffigwr amlwg o Blaid Cymru fel cynghorydd i Lywydd y Cynulliad.

Elin Roberts yw'r ail berson blaenllaw yn olynol o Blaid Cymru i gael swydd yn cynghori'r Llywydd Elin Jones, sy'n goruchwylio trafodion y Senedd.

Disgrifiodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig y penodiad fel "trefniant gwleidyddol".

Ond yn ôl Comisiwn y Cynulliad, cafodd y swydd ei hysbysebu'n allanol ac fe gafwyd proses recriwtio "agored a thrylwyr".

Ms Roberts oedd pennaeth cyfathrebu strategol Plaid Cymru ac mae'n olynu Rhuanedd Richards, cyn-brif weithredwr y blaid, fel cynghorydd i'r Llywydd.

Mae'r swydd yn benodiad cyhoeddus, sy'n golygu bod gofyn i Ms Roberts fod yn wleidyddol niwtral.

Proses recriwtio yn 'ffars'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae natur y penodiad hwn a'r un yn 2017 yn golygu bod y broses recriwtio yn edrych fel ffars.

"Mae'n gic enfawr yn y dannedd i'r ymgeiswyr eraill hynny a welodd eu hunain yn addas ar gyfer y rôl, ac ni wnaiff unrhyw beth i enw da Comisiwn y Cynulliad ymhlith darpar ymgeiswyr am swyddi, a fydd yn gweld y penodiad hwn fel trefniant gwleidyddol ac yn pendroni a ddylen nhw drafferthu gwneud cais yn y dyfodol."

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Cynulliad, sy'n gyfrifol am redeg y sefydliad o ddydd i ddydd, fod Ms Roberts wedi cael ei phenodi fel Cynghorydd Polisi a Chyfathrebu'r Llywydd "yn dilyn proses recriwtio agored a thrylwyr".

Bydd y gwaith yn cynnwys "cynllunio, datblygu a thrafod ymdrechion y Comisiwn i ddiwygio Cynulliad Cenedlaethol Cymru a llunio dyfodol democratiaeth Gymreig".

Ychwanegodd y llefarydd fod y swydd yn cynnwys "cysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, a bydd sgiliau strategol a phrofiad sylweddol Elin yn gaffaeliad wrth gynllunio a chyflwyno'r rhaglen waith hon".

Mae Rhuanedd Richards bellach yn olygydd BBC Radio Cymru a gwasanaeth ar-lein Cymru Fyw.