Fedrwch chi orffen y limrig?
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru Fyw wedi gofyn i un o limrigwyr mwyaf adnabyddus Cymru, Geraint Løvgreen, gyfansoddi limrig a gosod her i chi ei gorffen i nodi pen-blwydd arbennig rhaglen radio Talwrn y Beirdd.
Mae'r rhaglen ar Radio Cymru, lle mae beirdd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd drwy gyfansoddi cerddi, yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed yn 2019 - ac mae'r gyfres ddiweddara newydd ddechrau.
Felly beth am roi cynnig arni? Dyma'r limrig anorffenedig gan Geraint:
Mae'r Talwrn yn ddeugain eleni!
Roedd hanner y beirdd heb eu geni
pan ddechreuodd y sioe -
ond mae'n teimlo fel ddoe
.........?
Anfonwch eich llinell olaf atom ni:
e-Bost: CymruFyw@bbc.co.uk, dolen allanol
Twitter: @BBCCymruFyw, dolen allanol
Yn anffodus, does dim cadair na choron yn wobr ond fe fyddwn yn cyhoeddi'r goreuon - a llinell olaf Geraint Løvgreen.
Angen ysbrydoliaeth?
I'ch helpu, dyma rai o'r limrigau sydd wedi cyrraedd y brig ar raglenni Y Talwrn yn y gorffennol:
Gofynnodd Deborah i'w gŵr
'Fuest ti'n yfed cwrw neu ddŵr?'
Fe gododd o'r pafin
A'i bans rownd ei gorun
Ac ateb cyn disgyn, 'Shai'n shŵr'!
Emyr Davies (Taeogion)
Un noson wrth fwyta fy swper
danfonais y wraig lawr i'r seler
am botel o win
(roedd hynny nos Lun):
mae nawr bron â bod yn nos Wener.
Arwel Jones (Tanygroes)
Mae sgwrsio â'r cariad bob noson
Fel siarad â'r wal 'ma yn union;
Dwi'n sicr y cawn
Ei sylw o'n llawn
Pe bawn i'n sylwebydd chwaraeon.
Gwenno Davies (Hiraethog)
Roedd Tex mewn Ferrari bach drud
A nain heb ddim brys yn y byd
Fel 'tasai mewn angladd
Ond dyma nhw'n cyrra'dd
Y nefoedd yn union 'run pryd.
Gareth Jones (Tir Mawr)
Un noson gerllaw Penrhiw-llan
Mi gwrddais â brawd Prinses Ann.
Ynghlwm wrth ei sgidie
Roedd set o sgaffoldie
I ddala ei glustie fe lan.
Dai Rees Davies (Ffostrasol)
Mae rhai sydd yn hoff o bwyllgora,
Gan fynnu troi popeth yn ddrama;
Mae'n syndod, myn Duw,
Eu bod nhw'n cael rhyw
Heb gynnig ac eilio yn gynta'.
Iwan Rhys (Y Glêr)
Pob lwc!
Hefyd o ddiddordeb: