'Dylai perchennog Banksy Port Talbot ei dorri i lawr'

  • Cyhoeddwyd
Banksy Port TalbotFfynhonnell y llun, Scott Bamsey
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y darn celf ymddangos ar garej Ian Lewis ym mis Rhagfyr

Dylai perchennog y garej a ddewisodd Banksy ei defnyddio ar gyfer ei waith ym Mhort Talbot ei "dorri i lawr", yn ôl un sydd wedi cael budd o waith yr artist.

Dywedodd Dennis Stinchcombe ei fod wedi cael ei fygwth ar ôl i'r llun Mobile Lovers ymddangos ar ddrws ei glwb ieuenctid ym Mryste yn 2014.

Penderfynodd Mr Stinchcombe werthu'r gwaith a defnyddio'r arian i achub y clwb, oedd dan fygythiad cyn hynny.

Mae perchennog y garej ym Mhort Talbot, Ian Lewis wedi dweud ei fod "methu delio â'r holl beth" ar ôl i'r llun ymddangos ym mis Rhagfyr.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot eisoes wedi cynnig symud y celf er mwyn ei ddiogelu, ac yn ôl deliwr celf mae casglwr wedi cynnig talu tua £100,000 i brynu'r darn.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dennis Stinchcombe werthu darn Mobile Lovers am £563,000

Dywedodd Mr Stinchcombe y dylai Mr Lewis weithredu'n sydyn i ddiogelu'r gwaith gwerthfawr.

"Os oes ganddo unrhyw synnwyr bydd yn ei dorri i lawr a'i roi yn rhywle diogel iawn nes ei fod yn penderfynu beth i'w wneud gyda'r gwaith," meddai Mr Stinchcombe.

Dywedodd bod gwaith Banksy wedi ei alluogi i achub Clwb Bechgyn Broad Plain ym Mryste.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Lewis wedi dweud ei bod hi'n anodd delio â'r cyfrifoldeb o gael gwaith Banksy ar wal ei garej

"Roedden ni angen tua £120,000 i sicrhau dyfodol y clwb, oedd yn 120 oed," meddai.

"Fe ges i fy mygwth am 'mod i wedi ei gymryd oddi ar y wal. Roedd pobl yn dweud fy mod wedi'i ddwyn.

"Yn y diwedd fe wnaeth yr heddlu ddod draw a'i gymryd i'r orsaf a'i gloi mewn cell dros nos.

"Fe wnaeth Amgueddfa Bryste gytuno i'w arddangos nes i berchnogaeth y gwaith gael ei sortio."

Disgrifiad o’r llun,

Wedi i'r gwaith ymddangos ym Mhort Talbot cafodd ffens ei chodi o amgylch y garej

Fe wnaeth Banksy, oedd wedi mynychu'r clwb bechgyn yn yr 80au, ysgrifennu at Mr Stinchcombe yn cadarnhau mai eiddo'r clwb oedd y gwaith, ac y gallai wneud fel y mynnai gydag ef.

Cafodd Mobile Lovers ei werthu i gasglwr yn y DU am £563,000, gyda £403,000 o hynny'n mynd tuag at redeg y clwb.

Penderfynodd Mr Stinchcombe hefyd y byddai saith prosiect arall ym Mryste yn derbyn £12,000 yr un.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Banksy ysgrifennu at Mr Stinchcombe yn cadarnhau mai eiddo'r clwb oedd y gwaith

"Mae'r gwaith sydd wedi cael ei wneud dros bobl ifanc Bryste oherwydd y gwerthiant yn werthfawr dros ben," meddai.

"Hebddo fe fyddwn ni wedi gorfod cau, ac oherwydd hynny fe fyddai'n diolch iddo nes fy nydd olaf."