Ateb y Galw: Yr actor Meilir Rhys Williams
- Cyhoeddwyd
Yr actor Meilir Rhys Williams sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Iestyn Arwel yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cuddio o dan fwrdd yn yr ysgol feithrin gan fod un o'r bechgyn eraill yn rhedeg yn wyllt ac yn brathu pawb!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Y crush cyntaf oedd Hefin Rees - Rhys ar Pam Fi Duw?.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gwylio fy hun yn dawnsio wrth ganu ar Noson Lawen.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Pan welais i Mam yn ei ffrog ar gyfer priodas fy chwaer.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Canu. Drwy'r dydd. Bob dydd.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Llanuwchllyn. Gan fod tafarn yr Eagles yno.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mewn clwb yn Berlin yn dawnsio drwy'r nos efo fy ffrind Luke.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Dramatig, sensitif, penderfynol.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Eternal Sunshine of the Spotless Mind gan ei fod yn gampwaith sinematig.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
RuPaul - gan ei fod wedi dylanwadu ar fy mywyd ym mhob ffordd ac wedi helpu i newid agwedd y byd gorllewinol tuag at y gymuned LGBTQIA.
O archif Ateb y Galw:
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n ofnadwy o hoff o gemau cyfrifiadurol.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Chwarae Monopoly efo ffrindiau, bwyta sothach a wedyn peint yn nhafarn yr Eagles.
Beth yw dy hoff gân a pham?
The Art Teacher gan Rufus Wainwright. Dwi'n caru ansawdd ei lais a'i arddull storïol o gyfansoddi.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Camembert. Lasagne, chips a phys. Crymbl afal a chwstard.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Beyoncé Knowles Carter.
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Lowri Gwynne