'Cynnydd mawr' yng ngwariant y GIG ar staff asiantaeth
- Cyhoeddwyd
Mae gwariant Gwasanaeth Iechyd Cymru ar staff asiantaeth wedi "cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf", yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Dywedodd Adrian Crompton yn ei adroddiad, dolen allanol bod cynnydd o 171% wedi bod dros y saith mlynedd diwethaf.
Galwodd am "ddata cyson y gellir eu cymharu, yn ogystal ag arweinyddiaeth gref, i reoli'r gwariant ar staff dros dro".
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y gwariant ar staff asiantaeth a locwm yn 2017-18 £30m yn is na'r flwyddyn flaenorol.
Llenwi swyddi gwag
Mae tua 80% o'r gwariant ar staff asiantaeth hyd yma yn 2018-19 wedi cael ei ddefnyddio ar lenwi swyddi gwag.
Fe wnaeth gwariant GIG Cymru ar staff o'r fath gyrraedd uchafbwynt o £164.4m yn 2016-17, cyn gostwng i £135.7m yn 2017-18.
Dywedodd Mr Crompton bod "cyfraddau fesul awr cynyddol a godir gan asiantaethau, y cynnydd yn y galw am wasanaethau, a'r anawsterau o ran recriwtio a chadw staff" ymhlith y ffactorau sydd wedi cyfrannu at y cynnydd.
Fe wnaeth yr Archwilydd Cyffredinol gydnabod bod GIG Cymru'n ceisio lleihau'r galw am staff asiantaeth a'r pris sy'n cael ei dalu amdanynt.
Mae'n ychwanegu eu bod yn ceisio lleihau'r galw am staff asiantaeth "drwy greu delwedd fwy deniadol o GIG Cymru fel cyflogwr" a thrwy "leihau absenoldeb oherwydd salwch"
"Mae adroddiad heddiw'n pennu dwy her allweddol i wella'r broses o reoli'r gwariant ar staff asiantaeth," meddai Mr Crompton.
"Yn gyntaf, mae ar GIG Cymru angen data cyson y gellir eu cymharu ar lefel Cymru gyfan i dracio nifer, natur a chost y staff asiantaeth a ddefnyddir, ac effaith newidiadau i'r gwariant ar staff asiantaeth ar gostau staffio dros dro eraill.
"Yn ail, bydd angen sicrhau bod gan brosiectau i reoli'r gwariant ar staff asiantaeth a threfniadau staffio dros dro eraill arweinyddiaeth gref a chapasiti i roi newid ar waith yn ddi-oed ac i ymdrin â phenderfyniadau anodd mewn ffordd gyson."
Dadansoddiad Gohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke
Fe fydd wastad angen i'r gwasanaeth iechyd gyflogi staff dros dro o bryd i'w gilydd.
Wedi'r cyfan, pan fod staff yn sâl neu pan fo bwrdd iechyd yn cael anhawster recriwtio, maen nhw'n rhan hanfodol o'r ymdrech i ofalu a diogelu cleifion.
Ond mae 'na bryder fod y gwasanaeth bellach yn or-ddibynnol ar staff o'r fath i gynnal gwasanaethau o ddydd i ddydd, o fis i fis, ac o flwyddyn i flwyddyn.
Yn ôl adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, nid problem i Gymru'n unig yw hon, gyda gwariant ar staff dros dro yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban hefyd yn cynyddu dros y ddegawd ddiwethaf.
Fe fyddai'n well gan unrhyw gorff iechyd wario adnoddau prin ar staff parhaol, ond dyw hynny ddim wastad yn rhwydd.
Mae ysbytai llai o faint mewn ardaloedd gwledig yn aml yn ei chael hi'n anoddach denu staff, ac mae rhai arbenigeddau yn fwy poblogaidd nac eraill.
Ond anallu'r gwasanaeth i gynllunio'n llwyddiannus ar gyfer y dyfodol yn bennaf yw'r broblem, yn ôl rhai arbenigwyr, gyda'r gwasanaeth yn rhy brysur yn ceisio ateb heriau heddiw yn hytrach na pharatoi ar gyfer yfory.
'Cynnydd wedi'i lesteirio'
Yn ymateb i'r adroddiad dywedodd cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, Nick Ramsay: "Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd er mwyn gwella'r ffordd y caiff gwariant ar staff asiantaeth ei reoli.
"Yn benodol, nid yw'r data sydd ar gael yn ddigon cyson a chynhwysfawr eto i alluogi'r GIG i ddeall yn llawn y problemau y maent yn eu hwynebu.
"Mae mentrau blaenorol a phresennol i reoli gwariant ar staff asiantaeth wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr ond mae eu cynnydd weithiau wedi'i lesteirio gan yr angen i sicrhau consensws a gor-ddibyniaeth ar ewyllys da gan gyrff iechyd unigol."
Wrth groesawu'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf roedd cyfanswm y gwariant ar staff asiantaeth a locwm £30m yn is na'r flwyddyn flaenorol.
"Mae hyn yn ganlyniad i nifer o brosesau a rheoliadau ry'n ni wedi'u cyflwyno i leihau'r defnydd o asiantaethau yng nghyrff GIG Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2016