GIG: Gwario mwy ar nyrsys asiantaeth

  • Cyhoeddwyd
NyrsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wedi gweld cynnydd aruthrol yn yr arian sy'n cael ei dalu am nyrsys asiantaeth, yn ôl ffigyrau newydd.

Fe ddywed ystadegau ddaeth i law'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig bod gwario ar nyrsys o'r fath wedi cynyddu o £12.8m yn 2013 i £23m yn 2014 - cynnydd o 80%.

Fe gafodd cyfanswm o £60 miliwn ei wario ar staff nyrsio o asiantaethau dros gyfnod o bedair blynedd.

Dywedodd arweinydd Dem. Rhydd. Cymru, Kirsty Williams, y gallai cwtogi nifer y nyrsys gael ei weld fel "targed hawdd" wrth chwilio am doriadau yn y GIG, ond y byddai hynny'n gorfodi'r gwasanaeth i "lenwi bylchau" yn ddiweddarach gan fod lefelau staffio yn rhy isel.

Mae'r blaid wedi cyflwyno mesur i osod lefelau lleiafswm staffio gorfodol ar wardiau ysbytai.

Fe ddaeth y wybodaeth am staff nyrsio o asiantaethau rhwng 2011 ac 2014 i law'r Dem.Rhydd. yn dilyn cais gan y blaid i'r byrddau iechyd o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

  • 2011 - £14,042,670

  • 2012 - £11,285,033

  • 2013 - 12,759,037

  • 2014 - £23,035,785

Mae'r ffigyrau'n cynnwys cynorthwywyr gofal iechyd, cynorthwywyr nyrsio a nyrsys atodol.

'Pwysig cadw golwg'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cystadlu mewn marchnad fyd eang am nyrsys ac mae trafferthion recriwtio ar draws y DU, nid yng Nghymru yn unig.

"Gyda'r cefndir yma rydym yn parhau i weithredu i recriwtio ac ail-hyfforddi nyrsys, gan gynnwys ei gwneud yn haws i'r rhai sydd wedi gadael y proffesiwn i ail-ymuno gyda GIG Cymru.

"Mae'r ffigwr sy'n cael ei wario ar nyrsys asiantaeth yn fach yng nghyd-destun y £6 biliwn yr ydym yn buddsoddi yn GIG Cymru bob blwyddyn, ond mae'n bwysig i fyrddau iechyd gadw golwg ar y gwariant yma a gweithredu i recriwtio."