Lansio Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 wedi dweud eu bod yn edrych ymlaen at groesawu miloedd o ymwelwyr i Gaerdydd ym mis Mai mewn digwyddiad i lansio gŵyl a fydd heb y maes arferol eleni.
Bydd yr eisteddfod yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd gan ddefnyddio cyfleusterau Canolfan y Mileniwm fel Pafiliwn ar gyfer y cystadlu.
Mae'n golygu bod ymwelwyr, am y tro cyntaf, yn cael mynediad i'r maes am ddim, ond mae'n rhaid prynu bandiau braich er mwyn gwylio'r cystadlu a'r rhagbrofion y Pafiliwn.
Does dim angen y bandiau ar blant a phobl ifanc dan 18 oed, ac maen nhw am ddim i gystadleuwyr dan 25 oed.
Yn 2009 y cafodd yr ŵyl ei chynnal ddiwethaf ym Mae Caerdydd, ac yn ôl y trefnwyr mae nifer o ysgolion yr ardal "yn mynd ati i gystadlu am y tro cyntaf erioed".
Y nod, medd cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Aled Siôn, yw "dychwelyd i'r brifddinas unwaith yn oes ysgol pob plentyn, er mwyn rhoi'r cyfle i holl blant a phobl ifanc Cymru gael y wefr o berfformio ar lwyfan genedlaethol Canolfan Mileniwm Cymru".
Dywedodd cyfarwyddwr artistig Canolfan y Mileniwm, Graeme Farrow: "Braint o'r mwyaf yw gweld ein llwyfan byd-enwog yn gartref i gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd eleni.
"Edrychwn ymlaen at agor ein drysau a rhoi croeso cynnes i bawb - pa un ai eisteddfodwyr ers blynyddoedd maith, neu'n mynychu'r ŵyl am y tro cyntaf."
'Denu cynulleidfaoedd ehangach'
Cafodd Eisteddfod Genedlaethol "arbrofol" y llynedd hefyd ei chynnal ym Mae Caerdydd heb faes traddodiadol.
Mae trefnwyr yr Eisteddfod honno'n dweud ei bod wedi denu tua hanner miliwn o ymwelwyr, ond fe wnaeth golled ariannol o £290,000.
Mae Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas yn gobeithio y bydd Eisteddfod yr Urdd eleni hefyd "yn denu cynulleidfaoedd ehangach i ymuno yn y dathliad hwn o'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru".
"Roedd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd yn ddigwyddiad nodedig, yn gynhwysol ac yn estyn croeso i bawb," dywedodd.
"Gyda bae arbennig Caerdydd yn gefndir a llu o weithgareddau i bawb, mae Eisteddfod yr Urdd yn siŵr o adeiladu ar hyn gan gyfrannu at wneud Caerdydd yn ddinas wirioneddol ddwyieithog."
Mae Eisteddfod yr Urdd yn denu o gwmpas 90,000 o ymwelwyr a 15,000 o gystadleuwyr ifanc bob blwyddyn, a bydd yn cael ei chynnal eleni rhwng 27 Mai a 1 Mehefin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2016
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2018