Lliw haul yn peryglu iechyd 'cenhedlaeth Love Island'
- Cyhoeddwyd
Mae'r "genhedlaeth Love Island" yn mentro peryglon cynyddol wrth geisio cael y lliw haul perffaith, yn ôl arbenigwyr.
Mae chwydu a chur pen ymysg y sgil effeithiau, yn ôl rhai sy'n chwistrellu eu hunain gyda chyffuriau anghyfreithlon a defnyddio gwelyau haul am gyfnodau hir.
Dywedodd un defnyddiwr cyson o gyffur lliw haul Melanotan y byddai'n rhaid ei "orfodi i'r ysbyty" er mwyn stopio.
Ond yn ôl Sefydliad Croen Prydain mae angen i raglenni realiti beidio glamoreiddio cael lliw haul, gan fod pobl yn ymddwyn mewn modd peryglus.
Beth ydy Melanotan?
Wedi ei ddatblygu'r wreiddiol i drin anhwylderau croen, hormon yw Melanotan sy'n cynhyrchu pigment tywyll o'r enw Melanin pan mae'n cael ei chwistrellu.
Mae'n anghyfreithlon i'w werthu neu ei gyflenwi yn y DU.
Er nad yw'r sgil effeithiau hir dymor yn amlwg eto, mae ymatebion anaffylactic, crychguriadau'r galon (palpitations) a chanser y croen yn sgil effeithiau sydd wedi eu hadrodd i'r Asiantaeth Reolaethol ar gyfer Meddyginiaeth a Chynnyrch Gofal Iechyd (MHRA).
Mae'r MHRA wedi rhybuddio am y cyffur, gan ddweud y dylai pobl stopio ei ddefnyddio "ar unwaith".
'Pam y byswn i'n stopio?'
Mae Karl Dinis, 36 o Gaerdydd, yn defnyddio'r cyffur Melanotan 2, sy'n cael ei anfon o China wedi ei guddio fel triniaeth chwain i gŵn a hen fwyd.
"Mi fydde'n rhaid i mi gael fy ngorfodi i'r ysbyty er mwyn i mi stopio," meddai.
Er ei fod yn ymwybodol o'r peryglon, mae wrth ei fodd â'r canlyniadau - ac mae wedi gwario hyd at £18,000 ar y cyffur.
"Oni bai bod rhywun yn dweud wrthai fy mod yn ddifrifol wael a bod hynny'n gysylltiedig â'r chwistrelliad lliw haul; a bod modd profi hynny, pam y byswn i'n stopio?"
Fe ddechreuodd Karl ddefnyddio gwelyau haul pan oedd yn 17, cyn dechrau defnyddio'r chwistrelliadau tua 10 mlynedd yn ôl ar ôl derbyn y cyffur gan ffrind.
Mae'n cyfaddef nad oes ganddo syniad beth sydd yn y cyffur, ond mae'n ei brynu am gyn lleied â £16 ar WhatsApp o China, ac yn talu trwy ddefnyddio Bitcoin.
Dydy o ddim yn ei werthu, ond mae'n caniatáu i'w ffrindiau ddefnyddio'r hyn sydd ganddo.
'Yr un fath â lliw corned beef'
Mae gan Iwan Steffan, o ardal Rhiwlas yn Nyffryn Ogwen, brofiad o ddefnyddio Melanotan 2 hefyd.
Ond mae'n dweud nad ydy o bellach yn peryglu ei iechyd er mwyn cael lliw haul.
Am flynyddoedd bu'n defnyddio gwelyau haul ddwy waith y dydd; cyn dechrau defnyddio'r cyffur.
"Yr effaith mwyaf ydy gwneud i chdi gael croen tywyll, tywyll. Mae'r lliw'r un fath â lliw corned beef, 'fath â'r Nain ar [y gyfres deledu] Benidorm.
"Ond dyna oedd y ffordd cŵl o edrych, cwpl o flynyddoedd yn ôl."
Fe wnaeth Iwan, sy'n 28 a bellach yn byw yn Lerpwl, stopio defnyddio'r cyffur pan ddechreuodd lewygu.
"Fel arfer mae pobl yn gwneud o [chwistrellu] pan ti'n deffro. Ond mae'n gwneud i chdi deimlo'n sâl.
"Beth oeddwn i'n arfer ei wneud i stopio'r effaith yna oedd gwneud [chwistrellu] cyn cysgu... Mi o'n i'n cysgu trwy'r symptomau ac wedyn yn y dydd mi o'n i'n iawn.
"Ond os o'n i'n ei gael o [y chwistrelliad] yn y dydd, 'swn i'n eistedd yn y gwaith a bydda popeth yn mynd yn ddu... 'oedd hynny'n agoriad llygad i fi 'de."
Bu farw mam Iwan o ganser y croen, a dywedodd bod hynny'n rhan o'r rheswm dros ei benderfyniad: "Mae'n hurt, mae'n wirion nad ydy pobl yn gwybod am yr effaith.
"Nes i ddefnyddio gwelyau haul am flynyddoedd, ond dwi wedi gweld pobl yn cael canser, dwi'n ei weld o."
Glamoreiddio lliw haul
Dros y DU mae tua 15,400 o bobl yn cael diagnosis o Melanoma - y math mwyaf ffyrnig o ganser y croen - bob blwyddyn.
Tra bod mwy o bobl yn goroesi, mae pryder y gallai'r Gwasanaeth Iechyd wynebu ton enfawr o achosion newydd wrth i bobl fentro peryglu eu hiechyd er mwyn cael lliw haul tebyg i'r hyn sydd gan sêr rhai rhaglenni realiti.
Yn ôl Dr Rachel Abbott, llefarydd ar ran Sefydliad Croen Prydain, mae'r neges ynglŷn â chael lliw haul wedi methu ac mae pobl yn dechrau ymddwyn mewn modd peryglus.
"Dydy pobl byth yn credu y bydd yn digwydd iddyn nhw, cyn ei bod hi'n rhy hwyr," meddai.
Mae hefyd yn credu y dylai rhaglenni realiti beidio glamoreiddio cael lliw haul.
Mae hi wedi ei synnu gyda'r risgiau mae pobl yn eu cymryd er mwyn cael lliw haul, ond yn dweud bod trosglwyddo'r neges ynglŷn â'r peryglon o UV a chwistrelliadau'n anodd.
"Derbyniwch liw eich croen eich hun, yn hytrach na cheisio newid lliw eich croen ac, o bosib, peryglu eich bywyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2017