Gwerthwr ceir yn euog o dwyllo cwsmeriaid
- Cyhoeddwyd
Mae Llys y Goron Caernarfon wedi cael gwerthwr ceir o Gyffordd Llandudno yn euog o dwyllo cwsmeriaid wrth iddo geisio atal ei fusnes rhag mynd i'r wal.
Fe benderfynodd y rheithgor bod Gwyn Meirion Roberts, 50, yn euog o 22 o gyhuddiadau o dwyll ac un o fasnachu tywyllodrus.
Ond fe'i gafwyd yn ddieuog o ddau gyhuddiad pellach o dwyll.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 5 Mawrth.
Roedd yr erlyniad wedi dweud yn y llys fod Roberts wedi cynnig bargeinion "anghredadwy" i gwsmeriaid i gael arian pan aeth ei fusnes ar gyrion Bangor, Menai Vehicle Solutions, i drafferthion yn 2015.
Clywodd y rheithgor dystiolaeth gan nifer o gwsmeriaid oedd wedi colli ceir a miloedd o bunnoedd o ganlyniad i arwyddo cytundebau i gyfnewid eu cerbydau.
Clywodd y llys hefyd fod cwsmeriaid wedi talu ernes i Roberts am gar newydd, ond heb dderbyn y cerbyd.
Roedd Roberts yn gwadu ei fod wedi twyllo'n fwriadol, gan ddweud bod siomi cwsmeriaid yn sgil methiant y cwmni wedi ei "lorio".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2017