Honni cael eu troi allan o'u cartref 'mewn dial'
- Cyhoeddwyd
Mae cwpwl yn eu 60au yn honni bod eu landlord wedi eu troi nhw allan o'u cartref er mwyn dial arnyn nhw am gwyno am gyflwr y tŷ yr oeddan nhw'n rentu ganddo am £1,300 y mis.
Roedd Francisca Frigaud a'i phartner, Colin Sharman, wedi eu llorio'n llwyr pan gawson nhw rybudd i adael eu cartref yng Nghaerdydd ddau fis cyn bod eu cytundeb yn dod i ben.
Mae'r dull a ddefnyddiwyd gan y landlord - 'troi allan heb fai' (no-fault eviction) - yn gwbl gyfreithlon, ond mae'r elusen Shelter Cymru yn dweud fod yr arferiad yn gallu cael ei gamddefnyddio gan rai landlordiaid diegwyddor.
Mae Adran 21 o Ddeddf Tai 1988 yn caniatáu i landlordiaid droi tenantiaid allan heb fai, naill ai pan mae eu cytundeb yn dod i ben, neu trwy roi dau fis o rybudd iddyn nhw adael y tŷ.
Symudodd Ms Frigaud i'r tŷ pedair llofft yn ardal Penylan o'r ddinas, efo'i phartner a'i chyd-gerddor, Colin, ym mis Medi 2016.
"Roedd 'na broblemau anferthol efo'r tŷ pan ddaethon ni yma," meddai. "Mi wnaeth hyd yn oed yr asiant tai ei alw fo'n 'house of horrors' ac mi ddywedodd y byddai'n ceisio addysgu'r landlord."
Bedwar mis i mewn i'w cytundeb chwe mis, cawsant lythyr yn eu gorchymyn i adael yr eiddo. Ni roddwyd rheswm.
"Mi es i banics llwyr," meddai Ms Frigaud. "Doeddwn i ddim yn gallu cysgu. Roeddwn yn gorwedd ar y soffa drwy'r nos efo'r teledu ymlaen er mwyn cadw fy meddwl oddi ar y peth. Doeddan ni erioed wedi clywed am no-fault evictions."
Ond mae hi'n credu ei bod yn gwybod beth oedd y gwir reswm.
"Yn ôl y gyfraith nid oes angen rheswm, ond yn amlwg y rheswm oedd ein bod ni'n mynnu fod rhywbeth yn cael ei wneud [am gyflwr y tŷ], sydd o fewn ein hawliau dwi'n credu," meddai.
Dywed Shelter Cymru fod "talp sylweddol" o'u hamser yn mynd ar geisio helpu tenantiaid sydd wedi cael eu 'troi allan mewn dial'.
"Mae'n hawdd i landlord wneud hyn ac mae'n gallu bod yn agored i gael ei gamddefnyddio. Rydym yn gweld llawer o achosion o 'droi allan mewn dial'," meddai rheolwr ymgyrchoedd y mudiad, Jennie Bibbings.
"Colli tenantiaeth preifat ydi prif achos digartrefedd yn Lloegr, a'r ail yng Nghymru. Mae'n rhywbeth sy'n trethu gwasanaethau digartrefedd."
Dylid gwneud 'troi allan mewn dial' yn anghyfreithlon, meddai, a galwodd am wahardd 'troi allan heb fai' hefyd, fel sy'n wir yn yr Alban.
"Mi ddylai tenantiaid allu rhoi eu hochr nhw o'r stori."
Ond honnodd Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid (National Landlord Association - NLA) y byddai'r llysoedd barn yn cael eu "tagu" ymhellach pe bai newid o'r fath yn y gyfraith.
"Mae pawb eisiau cael gwared ar landlordiaid drwg sy'n fwy parod i droi pobl allan na thrwsio eiddo," meddai Meera Chindooroy, rheolwr polisi gyda'r NLA.
Ond nid oedd hynny'n rhoi darlun cywir o'r sefyllfa, meddai. Roedd landlordiaid yn dibynnu fwy fwy ar 'droi allan heb fai' am bod y llysoedd yn rhy llawn yn delio gydag achosion adfeddiannu, a'i fod yn mynd yn ddrutach bob dydd i ddwyn achosion gerbron llys.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisoes yn bwriadu gwneud 'troi allan mewn dial', yn anghyfreithlon, a'u bod yn ystyried eu hopsiynau ynglŷn â 'throi allan heb fai'.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2016