Cadarnhau 50c yr uned fel isafbris alcohol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
alcohol
Disgrifiad o’r llun,

Alcohol yw un o brif achosion marwolaeth a salwch yng Nghymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno isafbris o 50c yr uned ar gyfer alcohol yng Nghymru yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.

Cefnogodd y Cynulliad Cenedlaethol yr angen i gyflwyno isafbris uned, gan basio Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) y llynedd.

Yn ôl y Llywodraeth, nod y ddeddf yw diogelu iechyd yfwyr peryglus a niweidiol sy'n dueddol o yfed llawer o alcohol rhad a chryf.

Bydd y llywodraeth nawr yn gofyn i'r Cynulliad gymeradwyo'r isafbris uned o 50c.

Yn 2017, bu 540 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol, ac yn 2017-18, bu bron i 55,000 o dderbyniadau i'r ysbyty a oedd hefyd yn gysylltiedig ag alcohol.

Mae gweinidogion o'r farn ers tro bod ymyrryd â'r pris yn rhan allweddol o fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol, gan fod alcohol wedi mynd yn fwy fforddiadwy dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Bydd y ddeddf yn darparu fformiwla ar gyfer cyfrifo'r isafbris priodol am alcohol drwy luosi canran cryfder yr alcohol, ei gyfaint, a'r isafbris uned.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Rydyn ni o'r farn y bydd isafbris uned o 50c yn taro cydbwysedd rhesymol rhwng y manteision i iechyd cyhoeddus a'r manteision cymdeithasol a ragwelir, a'r ymyrraeth yn y farchnad."