Cymru'n gwneud pum newid i'r tîm fydd yn herio Lloegr
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Alex Callender chwarae dros Gymru am y tro cyntaf yn ystod y golled i Ffrainc
Bydd y blaenasgellwr Alex Callender ddechrau i Gymru am y tro cyntaf ddydd Sul, wrth i brif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, Rowland Phillips wneud pum newid i'r tîm fydd yn herio Lloegr.
Cafodd Callender, 18 oed, ei dewis yn y rheng ôl o flaen Manon Johnes, gyda Mel Clay yn dychwelyd i'r ail reng ar ôl gwella o anaf.
Elinor Snowsill fydd yn dechrau yn safle'r cefnwr, gyda Hannah Bluck a Jess Kavanagh hefyd yn wynebau newydd ymysg yr olwyr.
Ar ôl colli'r gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni o 52-3 yn erbyn Ffrainc, gorffen yn gyfartal wnaeth Cymru yn yr ail rownd y gystadleuaeth yn erbyn Yr Eidal.
Mae Lloegr, sydd â charfan llawn chwaraewyr proffesiynol, wedi trechu Iwerddon a Ffrainc yn eu dwy gêm gyntaf.
Bydd y gic gyntaf ym Mharc yr Arfau am 12:30, 24 Chwefror.

Tîm Cymru: Elinor Snowsill; Jasmine Joyce, Hannah Jones, Hannah Bluck, Jess Kavanagh; Robyn Wilkins, Keira Bevan; Caryl Thomas, Carys Phillips (c), Amy Evans, Gwen Crabb, Mel Clay, Bethan Lewis, Alex Callender, Siwan Lillicrap.
Eilyddion: Kelsey Jones, Cara Hope, Cerys Hale, Natalia John, Alisha Butchers, Ffion Lewis, Lisa Neumann; Lauren Smyth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2019