Llun Banksy ym Mhort Talbot wedi'i werthu

  • Cyhoeddwyd
Banksy Port TalbotFfynhonnell y llun, Scott Bamsey
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y darn celf ymddangos ar garej Ian Lewis ym mis Rhagfyr

Mae gwaith diweddara'r artist Banksy, a baentiwyd ar ochr garej ym Mhort Talbot fis diwethaf, wedi cael ei werthu'n breifat am "swm anhysbys".

Cafodd y gwaith - 'Season's Greetings', sy'n dangos bachgen bach yn chwarae mewn lludw - ei brynu gan Brandler Galleries o Essex, ac mae'r cwmni wedi cytuno i gadw'r gwaith ym Mhort Talbot am "o leiaf dwy neu dair blynedd".

Dywedodd perchennog yr oriel, John Brandler, wrth BBC Cymru ei fod yn gobeithio symud y darn i ganol y dref, a'i ddefnyddio fel atyniad mwy i'r cyhoedd.

"Dyna'r lle i'r gwaith," meddai.

"Fe allai ddenu pobl at atyniadau eraill yn y dref. Mae gen i ddarnau eraill o waith Banksy, a gan ddibynnu ar drafodaethau gyda'r cyngor lleol a Llywodraeth Cymru fe allwn i arddangos hanner dwsin o weithiau Banksy yn y dref.

"Gadewch i ni ei symud i ganol y dref lle gall y cyhoedd ei weld yn ddirwystr."

Disgrifiad o’r llun,

Ni wnaeth Ian Lewis ddewis derbyn y cynnig uchaf am y gwaith, yn ôl y prynwr

Canmol perchennog

Fe wnaeth Mr Brandler, sydd wedi awgrymu yn y gorffennol y gallai'r darn fod yn werth swm chwe ffigwr, hefyd ganmol perchennog y garej, Ian Lewis, am ddewis ei werthu iddo fo er iddo dderbyn cynigion uwch gan eraill.

"Ni wnaeth Ian fynd am y pris uchaf er mwyn cadw'r gwaith yn y gymuned. Rwy'n credu y byddai llawer wedi cymryd yr arian, ond doedd e ddim yn hunanol ac mae'n haeddu cydnabyddiaeth am hynny."

Dywedodd Mr Lewis ei fod yn bwriadu ailgodi'r garej pan fydd y gwaith wedi ei dynnu oddi yno.

"Mae'n bwysau oddi ar fy ysgwyddau i fod yn onest," meddai wrth gyfaddef fod yr holl brofiad wedi newid ei fywyd.

"Rwy'n credu bod y dref wedi disgyn mewn cariad gydag e, ac fe fyddai'n biti mawr iddo symud o'r ardal."

Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 20,000 o bobl wedi dod i weld y gwaith ers iddo ymddangos wythnos cyn y Nadolig

Ers i'r gwaith ymddangos ar y wal wythnos cyn y Nadolig, mae dros 20,000 o bobl wedi mynd i'w weld.

Does dim penderfyniad wedi ei wneud eto pryd fydd y gwaith yn cael ei symud, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch ar y safle.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Daeth eiddo Mr Lewis i sylw cenedlaethol dros nos, ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnig bod yn gyfrifol am drefniadau diogelwch dros dro er mwyn i Mr Lewis ystyried ei opsiynau i'r dyfodol."

'Atyniad gwych i Bort Talbot'

Ychwanegodd Mr Brandler ei fod yn disgwyl cwrdd â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot ddydd Gwener i drafod lleoliad i'r gwaith, ac i drafod dyfodol y gwaith yn y tymor hir.

"Rwyf wedi cytuno i fenthyg y gwaith iddyn nhw am o leia' dwy neu dair blynedd, ac ar ôl hynny mae'n dibynnu ar y trafodaethau i weld beth fydd yn digwydd wedyn," meddai.

"Rwy'n credu y gallai fod yn atyniad gwych i Bort Talbot os fydd yn cael ei wneud yn iawn.

"Fe wnes i geisio gwneud rhywbeth tebyg yn Essex, ond doedd pobl yno ddim eisiau gwybod... felly dwi am ei wneud ym Mhort Talbot yn lle."