Model Avon am 'gynrychioli pobl sy'n edrych yn wahanol'
- Cyhoeddwyd

Mae Catrin Pugh wedi bod yn cynghori Avon ar faterion yn ymwneud ag amrywiaeth
Dynes o ardal Wrecsam, fu mewn damwain ffordd ddifrifol yn Ffrainc yn 2013, sy'n arwain ymgyrch hysbysebu newydd gan gwmni harddwch.
Cafodd Catrin Pugh, sydd bellach yn 25 ac sy'n byw ym mhentre'r Orsedd, losgiadau i 96% o'i chorff yn dilyn y ddamwain fws yn yr Alpau.
Mae Ms Pugh nawr yn benderfynol o gynrychioli pobl sy'n edrych yn wahanol, a hi fydd yn arwain ymgyrch 'Perfect Nudes' gan Avon.
"Rydw i wedi gwneud y mwyaf o sefyllfa ofnadwy. Ni ddylwn i fod yma, felly pob cyfle dwi'n ei gael dwi'n ei gymryd ac yn dathlu hynny," meddai.
Dywedodd Ms Pugh fod yr holl beth wedi dechrau ar ôl darllen cylchgrawn yn yr ysbyty: "Roedd pob tudalen yn edrych yr un peth, ac roedd y pethau hyn i gyd allan o'n nghyrraedd i.
"Mae hi'n anodd, dwi'n edrych mor wahanol mewn byd lle mae pawb fod i edrych yr un peth...
"Dwi ddim yn cyrraedd y safonau hynny ac mae yna feddylfryd mai dim ond un math o brydferthwch sy'n bodoli."

Cafodd Ms Pugh losgiadau i 96% o'i chorff yn dilyn y ddamwain fws
'Diffyg cynrychiolaeth'
Mae Ms Pugh bellach yn llysgennad ar gyfer yr elusen Changing Faces ac yn cynghori Avon ar faterion yn ymwneud ag amrywiaeth.
Yn ôl arolwg gan Changing Faces, doedd 40% o fenywod mewn 15 gwlad ddim yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli gan y rhai sy'n cael eu gweld yn y cyfryngau.
Roedd bron i 66% yn teimlo dan bwysau i gyrraedd safonau arbennig pan fo harddwch yn y cwestiwn.
Ychwanegodd Ms Pugh fod y sefyllfa wedi gwella o ran maint, hil ac oedran, ond bod diffyg cynrychiolaeth yn dal i fodoli o ran pobl gyda gwahaniaethau gweledol fel creithiau.
"Mae ymgyrchoedd fel Perfect Nudes yn dangos fod pethau yn dechrau newid, ond mae'n rhaid sicrhau ein bod ni'n parhau i symud yn ein blaenau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd1 Mai 2014
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2013